Be, Drafft Bill Cymru yn siomedig? ‘Da chi ‘rioed yn deud!

Dwi’m yn siŵr faint o egni mae rhywun yn medru ei roi mewn i fod yn flin am rywbeth sydd ddim yn syndod o gwbwl. Oes yna unrhyw un wir wedi synnu efo cynnwys y Bill Drafft Cymru (sôn am enw trwsgl)? I fod wedi siomi, rhaid eich bod chi wedi disgwyl rhywbeth gwell. Y teimlad cryfaf alla i ddychmygu neb yn ei deimlo mewn ymateb i’r cyhoeddiad yma ydi diflastod efo’r holl broses hirwyntog.

Difyr ydi gwylio arweinwyr y pleidiau yn datgan ei gwrthwynebiad i’r bill fel llefarwyr mewn steddfod bentre. Leanne yn ail-adrodd y linell arferol am ‘sarhad’ a Cymru fel ‘cenedl eilradd’, mewn datganiad llawn cyhuddiadau amwys ac anodd eu mesur.

Roedd Carwyn yntau i weld wedi exceitio braidd, yn darogan gwae a rhywbeth oedd o’n ei alw’n “immense constitutional crisis”. Rywun gael mwg o horlics i’r creadyr.

Mae pawb yn gutted fod y bil mor wantan. Mi fyddwn ni’n cael y fraint o fedru newid enw’r Cynulliad (er, dwn i ddim beth fyddai eu hymateb nhw petau ni’n newid yr enw i “Llywodraeth Genedlaethol Gweriniaeth Annibynnol Cymru”), ac mi gawn ni edrych ar ôl y gwaith siwej a’r taxis, fel rhyw gyngor sir gor-bwerys. Y newid mwyaf arwyddocal mae’n siŵr ydi’r newid i’r sustem materion wedi eu cadw, fydd yn creu mwy o eglurdeb (gobeithio) ynglŷn a pha faterion fydd wedi eu datganoli. Hynny, a’r ffaith, yn ol y Pleidiau yng Nghaerdydd y bydd geiriad y bil yn golygu de-fact veto Seisnig tros ddeddfau Cymreig.

I fod yn deg i Loegr, mae’r Bill Cymru newydd yn un gwbwl resymol yn wleidyddol. Mi ryda ni trwy ddatganoli wedi dewis gwahaniaethu’n diddordebau ar sail tiriogaethol a chenedlaethol, a hynny ar gynsail y ffaith fod gennym ni fuddianau gwahanol. Tra fod gan lywodraeth Lloegr y gallu i atal Cymru rhag rhoi buddianau Lloegr mewn peryg, mae hi’n gwbwl rhesymol fod Lloegr yn ceisio gwneud hynny. Pa wladwriaeth werth ei halen fyddai’n wirfoddol roi’r grym i lywodraeth arall allu bygwth eu buddiannau?

Y gwir ydi fod San Steffan mewn sefyllfa anghyffyrddys o ran datganoli pŵer. Mae’n ymddangos wrth roi grym i’r Alban eu bod nhw wedi rhoi modfedd a’r Alban wedi cymryd llath, tra ar y llaw arall yng Nghatalonia tydi  polisi Madrid o wrthod cyfaddawdu ar fater Calanunya heb eu helpu nhwythau chwaith. Does na’m ennill i’w weld.

Ar ol ffiasgo’r Alban tydi’r Toriaid ddim eisiau hybu datganoli, ac  mae’n ymddangos mae polisi o gadernid sydd am weithio orau i warchod buddianau San Steffan. Mwy o rym neu llai o rym, mae’r ymateb yng Nghymru yn parhau yn llygoer, a heb wasg rydd, annibynnol, safonol i addysgu a chynnal trafodaeth tydi deffroad ddim yn edrych yn debygol. Mae’r status quo yn weddol gadarn, efo chwildro a la’r SNP yn annhebygol. Pa fantais sydd yna i San Steffan dros roi mwy neu llai o rym i Gaerdydd? Does gen lywodraeth Doriaid ddim llawer o bleidleisiau i’w colli yma, a wneith pandran i’r blaid Lafur yng Nghaerdydd ddim ennill unrhyw bleidleisiau iddyn nhw chwaith. Gan nad ydi’r blaid doriaidd yn debygol fyth o gael grym yn y cynulliad, dydi’r ysgogiad yna, sydd fymryn cryfach i’r blaid Lafur ddim yn mynd i fod yn eu gyrru nhw chwaith. Dwn i ddim be ydi barn yr etholaeth Seisnig ar gynyddu datganoli Cymreig, ond dwi’m yn meddwl y bydd o’n ‘vote-winner’ i neb. Mae paragraff agoriadol y rhagair y drafft yn adrodd cyfrolau am fwriad y bil:

“Mae’r Llywodraeth Un Genedl hon wedi ymrwymo i greu Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig gref a llwyddiannus. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pobl Cymru’n cael setliad datganoli clir a fydd yn para’n hir.”

Dyna’i deud hi’n reit glir, mi ryda chi’n ran o’r DU, yn ranbarth nid cenedl, a dyna ddiwedd y mater.

Y pwynt yn fama ydi mai naif ydi unrhyw un sy’n mynegi siom na fyddai llywodraeth San Steffan, heb orfodaeth neu fantais amlwg yn dewis datganoli grym yn wirfoddol. Nid buddianau Cymru ydi’r flaenoriaeth. Mi ryda ni’n gwybod hynny ers canrifoedd. Os oedd angen cael ein hatgoffa o hynny, onid ydi penblwydd Tryweryn yr wythnos yma yn darlunio hynny yn glir? Faint saffach ydi buddianau Cymru hanner canrif yn ddiweddarach. Os am warchod ein buddianau, rhaid i ni weithio drostyn nhw ein hynain, a peidio eu disgwyl nhw’n rhodd gan San Steffan.

***

Yn y cyfamser, mae’r nonsens ag ydi’r cynllun “English votes for English laws” wedi cael eu gymeradwyo gan dŷ’r cyffredin. Wir yr rŵan, bron na fydde chi’n meddwl fod y llywodraeth yma eisiau i Brydain gael ei thorri i fyny!

Dwi off i ddarllen Lenin’s theory of Imperialism ac i grio dros dy nghawl cenin. Nos dawch.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s