Yr wythnos dwytha, EVEL (English Votes for English Laws) oedd hi, yr wythnos yma ryda ni am ail wampio tŷ’r arglwyddi. Yndi, mae llywodraeth San Steffan yn cadw’n brysyr. O fewn ail dymor Cameron fel Prif Weinidog mae Prydain yn wynebu’r posibilrwydd o rai o’r newidiadau mwyaf i’w threfniannau llywodraethol ers datganoli, rhwng EVEl, y posibilrwydd o adael Ewrop a’r anniddigrwydd cynyddol efo Tŷ’r Arglwyddi.
Mae’r broblem ddiweddara, mae’n debyg, yn codi o’r ffaith i Dŷ’r Arglwyddi wneud fwy neu lai yr hyn mae nhw i fod i wneud. Un o swyddogaethau tŷ’r arglwyddi yw archwilio deddfau a mesyrau a’i dychwelyd i dy’r cyffredin i’w hail-ystyried os oes na broblem. Yn achos y torriadau i Gredydau Treth arfaethedig, daethpwyd o hyd i broblem, a gyrrwyd y cynnigion yn ôl. Sylwer nad difa’r cynnigion a wnaed, er yn achos offerynnau statudol fel y toriad yma, mae gan Dŷ’r Arglwyddi y gallu i wneud hynny. Ar sail canfyddiadau adroddiad yr Institute for Fiscal Studies sy’n awgrymu y byddai’r toriadau yn costio £1,300 y flwyddyn i 3.3milliwn o deuluoedd, rhoddwyd stop dros dro ar y cynlluniau nes fod cynllun tair-mlynedd wedi ei greu i roi help arianol i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y toriadau, a nes fod adroddiad wedi ei lunio yn ymateb i ddadansoddiad yr IFS o effaith y toriadau. Afresymol?
Ymateb y llywodraeth ydi bygwth cyfyngu ymhellach ar rymoedd Tŷ’r Arglwyddi, syniad sydd ddim yn amhoblogaidd o gofio mai siambr llawn arglwyddi heb eu hethol ydi hi, cast o filiwnyddion, cyn-wleidyddion, cynrychiolwyr eglwysig, ac unigolion miscellaneous eraill. Tydi hoffter y cyhoedd Prydeinig o arweinwyr anetholedig ddim yn ymestyn o Balas Buckingham i dy’r arglwyddi yn anffodus, ac mi fyddai hi’n anodd i unrhyw un wrthwynebu fasiwn bolisi gan y llywodraeth. Hwre, democratiaeth!
Wel, bron. Y broblem ydi, tydi cael ail siambr effeithiol ddim yn syniad cynddrwg a hynny yn y bôn. Does gan Brydain ddim cyfansoddiad na llys cyfansoddiadol; mae gan y gangen weithredol lawer rym tros y gangen ddeddfwriaethol; Unwaith mae’n cael ei ethol, mae Prif Weinidog Prydain yn foi pwerys iawn. Prif arf y bobl yn erbyn y llywodraeth ydi’n gallu ni, trwy’r wrthblaid, yn y wasg, ac ia, Tŷ’r Arglwyddi, i herio’r Prif Weinidog a’i gabinet.
Wrth gwrs, mae cael cydbwysedd rhwng grym y llywodraeth a grym y ‘Checks and Balances”. Mae America yn enghraifft berffaith o wlad sydd wedi mynd fymryn yn rhy bell wrth gyfyngu ar rym y llywodraeth, i’r pwynt lle gall llywodraethu ddod fwy neu lai i stop am flynyddoedd os na all y Tŷ, Senedd a’r arlywyddiaeth gyd-weithio. Yn ymarferol mae angen i un siambr fod yn oruwch na’r llall, ond mae’n rhaid cael strwythur sy’n galluogi deialog, nid un sy’n creu yes-men. Fel arall waeth i ni jest sdicio’r cwn bach churchil ‘na yn nhy’r arglwyddi i fynd “yes-yes-yes” drwy’r dydd. Mae angen i Dŷ’r Arglwyddi fedru herio Tŷ’r cyffredin, a’r unig ffordd iddi wneud hynny efo hygrededd a chyfreithlondeb yng ngolwg y bobl ydi trwy weddnewid y siambr, boed hynny trwy ei gwneud hi’n etholedig, yn bwyllgor o arbennigwyr neu’n dynnu enwau pobol allan o het, unrhywbeth heblaw’r cyfaddawd trwsgwl rhwng ffiwdaliaeth a moderniaeth ac ydi’r siambr bresennol.
Does dim angen i ni gael hawliau second amendment i atal llywodraeth rhag troi yn deyrn. Yn achos y toriadau i gredydau treth, mae Tŷ’r Arglwyddi wedi gwneud yn union be mae o fod i wneud (yn ogystal a chodi cwilidd ar George Osborne. Penderfynwch chi beth oedd y pechod mwya). Bechod nad oes ganddi hi goes i sefyll arni yn ddemocrataidd.