Ofn?

Mae’r ymosodiad ym Mharis yr wythnos diwetha wedi ysgwyd Ewrop.  Mae’r rhethreg gwrth-fewnfudwyr, y rhagfarnau gwrth-Islamaidd, drama barhaus yr argyfwng ffoaduriaid a lluniau a la Vietnam o ddihirod di-wyneb mewn pijamas duon, wedi cyfuno a’r drychineb ddiweddara i greu coctel o heintus o hysteria ac arswyd.

Mae arnon ni ofn. Mae hynny’n hollol naturiol, ac yn rywbeth na allwn ni na chwaith ddylien ni ei wadu. Ond mae hi’n hanfodol ein bod ni’n rheoli’r ofn hwn, ac yn ei atal rhag rheoli ein penderfyniadau ni, neu mi ryda ni’n gwneud gwaith y terfysgwyr drostyn nhw. Achos dyna’n union oedd pwrpas yr ymosodiad ym Mharis, ac efallai fod hynny i’w weld yn ddatganiad amlwg, ond mae o i’w weld yn ffaith sy’n cael ei anwybyddu. Nid ymosodiad yn unig oedd ymosodiad nos Wener, ond perfformiad. Roedd o’n hynllefus, yr hyn ddigwyddodd yn y Batalclan yn Hollywoodaidd yn ei erchylltra graffig. Mae’r byd i gyd yn lwyfan medde’ nhw, ac roedd ymosodwyr dydd Gwener yn deallt grym theatrics i’r dim. Roedd popeth, yr amseru, y lleoliadau, y goleuo a rôl ryngweithiol y cyfryngau cymdeithasol oedd yn rhoi mynediad i ni i’r Bataclan fel oedd y gyflafan yn mynd rhagddi, roedd o i gyd wedi ei ddefnyddio i droi’r lladd yn berfformiad. Dyma immersive theatre yn ei ystyr eithafol, a’i bwrpas oedd brawychu pobl y gorllewin, eu troi yn erbyn ffoaduriaid a Mwslemiaid, a’u gwthio i wneud penderfyniadau byrbwyll ar sail emosiwn yn hytrach na rheswm. Yr hyn sydd yn rhaid i ni ystyried nawr ydi ein rôl ni, y ‘gynulleidfa’ oedd yn dyst i hyn i gyd, yng ngweddill y cynhyrchiad. Achos ryda ni wedi cyrraedd yr act nesaf rŵan, a ni sy’n cyfarwyddo yr act yma.

Hyd yn hyn, yr oll yda ni wedi llwyddo i’w wneud ydi lluosogi bwriad y terfysgwyr trwy ledu ofn. Dyna mae’r wasg a’r llywodraeth yn ei wneud trwy or-ymateb, ac achosi panig a braw di-angen, sef ymddwyn fel uchelseinyddion i fwriadau terfysgwyr. Y mwyaf o ofn sydd arnom ni, y mwyaf afresymol a byrbwyll fydd ein penderfyniadau. Rhaid i ni drio bod yn rhesymegol. Yndi, mae ymosodiadau terfysgol yn frawychus, ond mae marw mewn damwain car yn frawychus hefyd, a llawer mwy tebygol o ddigwydd. Eto’i gyd da ni’n dal i yrru ceir.

Ond mae rheswm arall dros reoli’n hofn heblaw am i wrthwynebu bwriadau y terfysgwyr, a hynny er lles ein democratiaeth. Mae’n hanfodol nad yda ni’n gadael i’n hofn achosi i ni wneud  penderfyniadau gwael ynglŷn a’r cydbwysedd rhwng diogelwch a rhyddid.

Fyddai fawr neb call yn dadlau fod rhyddid yn absoliwt. Mae na adegau pendant lle mae angen cyfyngu ar ein rhyddfreiniau er mwyn gwarchod bywydau. Dydi rhyddfynegiant fawr o ddefnydd i gorff marw. Mae mesurau diogelwch yn bwysig, ac mae na reswm pam fod gan y rhanfwyaf o ddemocratiaethau gymalau cyfansoddiadol i ganiatáu mesurau arbennig i warchod ei thrigolion mewn cyfnodau o berygl, a hynny o fewn strwythurau democrataidd, ond mae mwy i ddemocratiaeth na chyfansoddiad a phleidlais achlysurol. Dyletswydd dinasyddion ydi herio’r llywodraeth, trwy’r wasg, trwy eu haelodau seneddol, a thrwy’r cyfryngau. Mae’r herio yma yn ran canolog o strwythur pob democratiaeth, ac yn hanfodol i’w ffyniant.

Mae’r wasg a’r cyfrwyngau wedi bod yn syndod o dawel ynglŷn a’r mesurau arbennig sydd wedi eu cymryd yn Ffrainc a Gwlad Belg. Mae Ffrainc mewn stad rhannol-barhaol o argyfwng, gyda terfyn amwys ac anfesuradwy, ac mae Brwsel yn ymdebygu fwyfwy i olygfa allan o Call of Duty. Mae’n bur debyg fod hyn am resymau digon teilwng o ran anghenion diogelwch. Ond rhaid i ni gwestiynu hynny. Mae’n ddyletswydd arnom ni i ofyn beth yw’r cyfiawnhad tros y mesurau hyn, i ofyn a ydyn nhw’n gymesur i’r bygythiad, ydy’n nhw’n angenrheidiol ac yn effeithiol. Mae’r gofyn yn bwysicach na’r ateb, gan mai’r holi sy’n atal llywodraethau rhag mynd dros ben llestri. Mae’r tawelwch o gylch y mater yn frawychus.  Oes gennym ni gymaint o ofn nes fod ein dymuniad i deimlo breichiau cryf y wladwriaeth yn gafael amdanon ni’n gysurlon yn ein hatal rhag eu herio?

Gadwch i ni feddwl yn ôl at yr ymosodiad arall oedd yn nodweddiadol am ei naws berfformiadol. Defnyddiodd ymosodiad 9/11 yr awyr gyfan fel canfas. Ac arweiniodd yr ymateb hysterical a parodrwydd gan boblogaeth y gorllewin i dderbyn rhethreg gwarchodol y llywodraethau, ac at ganlyniadau llawer gwaeth yn y pendraw. Yn rhannol oherwydd ymateb y gorllewin yn 2001 yr yda ni’n wynebu y sefyllfa bresennol. Ers 2001 ryda ni wedi gweld sefydlu deddfwriaethau fel y Patriot act, twf blanket surveillance a cilio pellach ar ffiniau preifatrwydd. Ryda ni wedi gweld sefydlu Guantanamo Bay, scandal yr NSA ayb. Er mai yn America yn bennaf gwelwyd hyn, mae’r effaith wedi bod yn amlwg yn Ewrop hefyd, a welwn ni ddim dychwelyd i’r dyddiau cyn-2001.

Gadwch i ni gofio hyn wrth ymateb i ymosodiadau Paris.

 

 

 

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s