Brenines y llyfrau antur

Flwyddyn nesa mi fydd hi’n 50 mlynedd ers marw Elizabeth Watkin-Jones, ond dwi heb glywed unrhyw son am gynlluniau i ddathlu ei gwaith hi. Mi fyddwn ni wedi rhedeg allan o falŵns ar ôl dathlu cymaint ar T.Llew i ddathlu EW-J dwi’n ofni. Felly dwi am ei dathlu hi yn fama, jest i fod yn wahanol.

Doeddwn ni ddim yn cin ar stwff T.Llew pan oeddwn i’n iau, a dwi ddim yn dweud hynny er mwyn trio tynnu oddi ar fawredd T.Llew o gwbwl. Fedrai wir werthfawrogi ei gyfraniad o i lenyddiaeth plant Cymru, ond doedd o jest ddim at fy chwaeth i. Maddeuwch imi’ nghyfeilorni, ond hogan Elizabeth Watkin-Jones oeddwn i.

Dwi ddim yn cofio lle cefais i fy nghopi o treuliedig o Luned Bengoch, ond dwi’n amau mai Tenevous Caernarfon oedd o. (Roedd fano wastad yn le da am lyfrau Cymraeg ail-law yn Dre- dim o’r paper-back romances ‘na oedd yn llenwi silffoedd y Groes Goch a British Heart.). Mi wirionais i yn llwyr- doeddwn i heb ddarllen dim byd tebyg yn y Gymraeg o’r blaen. Yn Saesneg mi ro’n i’n darllen llyfrau fel nofelau Alice Turner Curtis a’i arwresau ffrogedig o ryfel annibyniaeth America (mae gen i stori drasig yn ymwneud a chopi argraffiad cyntaf prin o “Little Maid of Bunker Hill a jel pen binc..), neu anturiaethau merched Ann Rinaldi a Elizabeth George Speare yn y rhyfel Cartref a’r rhyfel Ffrangeg-ac-Indiaidd. Straeon lle roedd merched ifanc, 10-14 oed yn ymgymryd ac anturiaethau cyffroes a pheryglus, gan gyflawni gorchestau fyddai’n newid cwrs hanes, mewn ffyrdd bychain. Roedd Luned Bengoch fel y llyfrau yma ond yn well, am ei bod wedi ei lleoli yn y Gymru hanesyddol (gan gofio fod hanes Cymru yn brin fel cyraints mewn brechdan ham ar sylabus ysgolion Cymru..). ‘Crych’ oedd fy hoff air i am flwyddyn gron ar ôl darllen y llyfr, ac mi benderfynais i yn y fan a’r lle byddwn i’n galw fy mhlentyn cynta yn ‘Luned’. O fanno wedyn dyma lowcio y lleill fel gast newynog, gan ei hail ddarllen nhw drosodd a throsodd.

Mae prif-gymeriadau benywaidd, anturus dipyn prinnach mewn llenyddiaeth plant Cymraeg nac ydyn nhw yn y canon Saesneg cyfatebol (neu o leia mi roedd hynny’n wir 5-10 mlynedd yn ol pan o’n i’n darllen llenyddiaeth plant yn weddol reolaidd). Lle roedd yna gyfoeth o arwresau benywaidd Saesneg i’w heilynu (ydi hwnna’n air?), alla i ddim cofio fawr ddim ohonyn nhw yn y Gymraeg. Bosib fod hynny am fod cymaint o lenyddiaeth plant yn y Gymraeg yn cael ei gomisiynu i ffitio proffil penodol, a fod prinder o fechgyn yn darllen a fod cymeriadau benywaidd yn switch-off iddyn nhw mae’n debyg. Crincs. Ond rhaid cofio fod darllen yn rhoi mwy na dim ond y sgil o ffurfio geiriau o lythrennau i ni. Mae’r hyn yr yda ni’n ei ddarllen yn ifanc (ac wedyn pan yn hyn) yn siapio’n byd-olwg, ein hynaniaeth a’n disgwyliadau ni mewn bywyd. Heb arwresau yn ogystal ac arwyr, ryda ni’n llwgu ein merched ifanc o’r cyfle i ddychmygu eu hunain fel arwresau. Dyma’r rhodd roddodd llyfrau Elizabeth Watkin-Jones i mi.

Erbyn hyn mae’r nofelau allan o brint,   ac siopau elysen a stondinau ail-law steddfod ydi’r llefydd gora i ddod o hyd iddyn nhw. Ond a’r dolig yn prysyr ddod, mi allech chi wneud yn waeth na llithro un o lyfrau Elisabeth Watkin-Jones i mewn i hosan ryw hogan neu hogyn bach lwcus.

2 o sylwadau am “Brenines y llyfrau antur

  1. Yn llygad eich lle. Welsoch chi sylwadau’r hen G.A., 19 Tachwedd, dan y teitl ‘Neb yn deilwng’? Y peth MAWR sy gan EWJ,ac nad yw gan bob awdur antur i blant, yw TEIMLAD.

    Hoffi

    • Diolch am dynnu fy sylw i at y darn! Difyr iawn, a chytuno’n llwyr. Dwi’n ame mod i o bosib yn perthyn i genhedlaeth fymryn yn iau, ond dal yn cofio darllen a mwynhau llawer o’r un cyfrolau! Mae na gymaint o lyfre plant wedi eu anaestheteisio er mwyn gwarchod palnt, ond y llyfrau mwya cofiodwy i mi ydi’r rhai lle dwi’n cofio disgyn mewn cariad a thorri calon chwerthin a chrio efo’r cymeriadau.

      Hoffi

Gadael sylw