Dawnsio ar y dibyn

Mae’r winllan dan warchae a’r gwynt yn chwibanu dan y drws. Ryda ni gam y nes at y dibyn. Hoelen arall yn yr arch, blaidd wrth y drws ayyb.

Felly mae hi’n medru teimlo weithia’ beth bynnag. Mae hi’n hawdd bod yn or-ddramatig ar ôl y misoedd o newyddion drwg ynglŷn a chyllido sefydliadau sy’n gwasanaethu’r Gymuned Gymraeg ei hiaith. Cyfres o ymosodiadau di-ball ar gonglfeini y diwylliant. S4C, y cyngor llyfrau, y llyfrgell genedlaethol, ond hefyd ar sefydliadau cymunedol lleol, ein llyfrgelloedd, a’n adnoddau cyhoeddus. Ymosodiadau o bob tu, o lywodraeth y cynulliad yn ogystal a San Steffan. Dyddia du bois bach.

Dydi’r gymuned Gymraeg ei hiaith ddim yn gymuned sydd a rhyw lawer o rym economaidd. Mae hi’n rhy fach i fod yn farchnad apelgar i gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae grymoedd y farchnad rydd yn ffafrio dymuniadau y mwyafrif dros y lleiafrif, ac mae’r arian yn llifo i’r pant dyfnaf. Anfantais ddwbwl y Gymraeg ydi fod y gymuned hefyd wedi ei lleoli yn un o ranbarthau tlotaf y DU. Dydi economeg ddim o’n plaid ni, ac i gynnal darpariaeth o safon Ewropeaidd yn y Gymraeg rhaid ar bres cyhoeddus. Dwi’n ail-adrodd ystrydeb, ond nid mewn punnoedd  mae mesur yr ennillion o fuddsoddiad mewn iaith.

Mae’r toriadau yma yn fygythiad i economi, diwylliant a chymunedau Cymreig. Wrth grebachu diwydianau creadigol Cymru mae’r toriadau yma’n bygwth crebachu economi wledig a threfol, a’r swyddi hynny sy’n caniatau i gynifer o Gymru Cymraeg (boed Yuppies neu ddim) aros a gweithio yn eu cymunedau. Mae’n bygwth gallu y gymuned ieithyddol i greu cynnwys safonol yn y Gymraeg, cynnwys all gystadlu gyda’r farchnad Saesneg. Byddai’n well gen i fedru dweud “cystadlu a’r farchnad fyd-eang”, ac er fod hynny i raddau yn wir hefyd, rhaid wynebu’r sefyllfa yng Nghymru mai troi at y Saesneg fyddwn ni pan fyddwn ni’n newid o S4C, neu’n rhoi’r Cymro i’r naill ochor. “Cystal a unrhywbeth yn Lloegr” ydi un o’r geiriau gorau o ganmoliaeth o hyd wrth adolygu cynnwys Cymraeg. Heb yr arian, mae safon yn siŵr o ostwng. Bydd golygyddion a chynhyrchwyr yn fwy cyndyn o gymryd risg efo stwff newydd, arbrofol a bydd y celfyddydau yng Nghymru yn aros yn eu hynfan. Er engraiffrt, mae’n amheus gen i a fydd nofel arall fel Ebargofiant yn cael ei chyhoeddi yn y byd ol-doriadau.

Da ni’n wynebu dyfodol du lle mae re-runs o Dudur Owen a’r noson Lawen, nofelau am galedi bywyd gwledig a phobol yn yfed te yn tra-arglwyddiaethu ein bywyd diwyllianol. Sownd at ein gliniau mewn cors gelfyddydol.

A na, nid dadlau o blaid cynnwys elitaidd, arbrofol ydw i- dim ond fod pob diwylliant ei angen o, fel mae nhw angen operau-sebon a diwylliant pop. Mae ei angen o, achos rhywle yn y canol rhwng noson lawen a Ebargofiant mae diwylliant poblogaidd yn bod, ddigon newydd i fod yn ffresh, difgon traddodiadol i fod yn gysurus gyfarwydd.

Persecution Complex Cymreig yntau ofn rhesymol fod ein diwylliant am gael ei ddifa?

Mae o’n ddarlun du uffernol, ond fel dwi wedi deud, mae darogan gwae yn hobi genedlaethol gan y Cymru. Mi ryda ni’n hoff iawn o gwyno pa mor ddu ydi pethe arnom ni. A ma pethe yn reit ddu. Ond tasa ni’n rhoi mwy o’r egni yr yda ni’n ei ddefnyddio yn poeni at greu, mi fyddai hi’n dipyn gwell arnom ni. Digon o feddwl am beth sy’n ein herbyn ni, beth sydd o’n plaid ni?

Mi ryda ni’n wlad ddatblygedig ac yn byw mewn cyfnod lle mae hi’n haws a rhatach nac erioed creu a rhannu cynnwys (gair hyll ond dyna ni). Rhaid i ni fynd allan a gneud pethe’n hyn, boed hynny’n ffotocopïo ffanzines llenyddol ar beiriant ffotocopïo y llyfrgell leol (os oes na un dal gennych chi!), yn recordio podcasts ar eich ffon, perfformio’ch drama abswrdaidd yn neuadd y capel, neu beintio cerddi ar glogwyni. Rhaid i ni rygnu mlaen gore fedrwn ni. Mae’r Gymraeg wedi diodde dipyn go lew dros y blynyddoedd a dod drwyddi. Efo dychymyg a dyfeisgarwch mi ddown ni drwyddi tro’ma hefyd.  Iawn, mi fydd ein gallu ni i greu cynnwys sgleiniog, swish ar gyfer y gynulleidfa ddosbarth canol, chwaethus wedi cloffi rhywfaint, on wneith gwthio chydig o egni amrwd, blêr i mewn i’r diwylliant ddim drwg i ni chwaith. Oes, mae angen cwffio i gadw yr hyn sydd gennym ni, ond mae hi’n bell o fod ar ben arnom ni. Golygyddion yn gyndyn o argraffu dy nofel wyddonias, ôl-fodernaidd, LGBT di? Argraffa hi dy hyn mewn serial ar lein. Wneid di ddim dima goch, ond roeddet ti’n gwybod hynny cyn cychwyn yn doeddet?

Mae o eisioes yn digwydd. Mae ‘na ddigonedd o bobol allan yna, sydd wedi gweld bwlch a wedi mynd ati i’w lenwi fo heb boeni am nawdd a ballu, ac yn llwyddo i neud iddo fo weithio drwy styfnigrwydd, lwc neu jest grym ewyllus.

4 o sylwadau am “Dawnsio ar y dibyn

    • Dwni’m os ydio’n syndod- mae o’n dod lawr i economeg y peth am wn i tydi. Hyd yn hyn dydi’r buddianau ddim wedi bod mewn cymhareb ffafriol efo’r gost nadi. Hynny ydi dybiw’n i fod buddianau fel y teimlad o anrhydedd o gael dy gyhoeddi, help gwasg i hyby’r cynnyrch ayb yn is wrth hynnan-gyhoeddi yn Gymraeg, a’r gost, mewn arian parod, ac falle teimlad o chwithdod a swildod yn uwch. Os doith hi’n anoddach cael cyhoeddi gwaith efo gweisg go iawn, mae’r gymhareb yn siwr o newid o blaid y buddianau dybiwn i.

      Hoffi

      • Ond mae gwasanaethau argraffu-ar-alw o’r radd flaenaf wedi bod ers ychydig blynyddoedd.

        Does dim cost cychwynnol i’r awdur achos mae’r gwasanaeth yn argraffu llyfr fesul archeb.

        Mae unrhyw yn gallu dechrau gwerthu llyfr printiedig am unrhyw beth yn Gymraeg. Mae’n eithaf cwl.

        Byddwn i wedi disgwyl o leaif cwpl o enghreifftiau fel arbrofion. (Efallai dylwn i wneud e!)

        Dw i ddim yn ceisio cyfiawnhau toriadau i grantiau am lyfrau. Hoffwn i weld cryder yn Gymraeg ar draws sbectrwm o ymdrechion rhwng amaturaidd a phroffesiynol.

        Hoffi

      • Ia, alla i ddim deud mod i’n gyfarwydd a’r diwydiant, ond dwi yn ymwybodol o o leiaf un nofel wedi ei hynan-gyhoeddi yn y Gymraeg- nofel ffantasi wedi cael ei chyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg gan fyfyrwraig 6ed o Fangor dwi’n meddwl. Dwi ddim yn cofio y teitl na enw’r ferch yn anffodus!

        Ond ia, o ran cost/benefit, dim gymaint y cost/benefit ariannol ond y cost/benefit o ran manteision personol fel balchder a chwilydd oedd gen i mewn golwg. Dwi’n meddwl fod na ddiwylliant o fug-wyleidd-dra o fewn y gymuned sgwennu Cymraeg, lle mae na stigma yn perthyn i ymddygiad a allai gael ei ddisgrifio fel ymddygiad hynanhyderys fel hynan-gyhoeddi a mynychu cyrsiau sgwennu (cofier methuant Ty Newydd i ennyn digon o ddiddordeb mewn cyrsiau preswyl cyfrwng-Cymraeg). Mae ffactorau cymdeithasol felly yn cynyddu’r gost ac yn lleihau y buddianau ee y prestige o gael awdurdod allanol (h.y. gwasg neu olygydd) yn cymeradwyo gwaith cyn ei gyhoeddi.

        Ond fel dwi’n deud, dwn i’m. Falle mai jest rhy geidwadol yda ni i gyd.

        Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s