Codi tresi

 

Mae nhw’n destunau poblogaidd ar gyfer cystadlaethau ysgrifennu mewn eisteddfodau bach a mawr fel eu gilydd: rhyfel; trais; brwydr; a geiriau dramatig, cyffroes eraill sy’n disgrifio pethau nad oes gan y rhan fwyaf o feirdd ac awduron y Gymru gyfoes unrhyw brofiad llythrennol ohonyn nhw. Y cyngor cyffredinol ydi y dylid cymryd y testunau hyn yn eu hystyron trosiadol, a dyna mae nifer yn ei wneud, ond mae digon o gystadleuwyr hefyd yn mynd am yr ystyr llythrennol gan sgwennu am frwydrau a rhyfeloedd go iawn, dros y byd a thros amser.

Mae nhw’n destunau secsi, llawn emosiwn, sy’n apelio yn enwedig i feddyliau ifanc, brwdfrydig sy’n meddwl fod angen sgwennu rhywbeth ar destun ‘siriys’ er mwyn ennill mewn eisteddfod. Canlyniad hyn ydi’n anorfod fod peth wmbreth o gerddi gwael, ystrydebol, am drasiedïau abstract mewn gwledydd pell yn cael eu cynhyrchu, a hynny hyd syrffed.

Y cyhuddiad sy’n cael eu ddwyn amlaf ger bron y tresmaswyr hyn yw’r cyhuddiad o fod yn ‘sgwennu am bethau y tu hwnt i’n profiad’. Mae digon o athrawon a cholofnwyr Barddas wedi siarsio a sgwennu i ddweud y dylai beirdd Cymreig gadw draw o’r fath destunau dieithr i’n profiad. Ysgrifennwch am ‘eich profiadau chi eich hyn’ medde nhw. ‘Dechreuwch wrth eich traed’. Wel ia, os mai eisiau sgwennu am sgidiau yda chi.

Y drwg wrth gwrs, wrth rannu cynghorion fel hyn ydi mai tueddu i godi tresi yr yda chi er mwyn i bobol gael cicio yn eu herbyn. Felly dyma fynd ati i gicio. Ar ba sail y mae dadlau mai dim ond ysgrifennu am y cyfarwydd y dylai awduron wneud? Diddorol ydi nodi ei bod hi’n ymddangos mai celfyddyd ysgrifennu ydi’r unig gelfyddyd y mae’r ddeddf hon i weld yn berthnasol iddi- mae’n ymddangos fod gan yr artist gweledol neu’r cerddor fwy o ryddid i grwydro wrth ddewis testun. Ond testun ysgrif arall ydi’r drafodaeth honno.

Y ddadl ydi fod unigolyn yn ysgrifennu yn well wrth ysgrifennu o’i brofiad- hynny ydi y bydd safon y gwaith yn uwch. A tydw i ddim am ddadlau yn erbyn hynny. Yr hyn yr ydw i’n anghytuno efo fo ydi’r duedd i gymryd y gwirionedd hwnnw a defnyddio diffiniad cul o’r syniad o ‘brofiad’ i ddeddfu’n ddiriaethol ar ba destunau y dylai unigolyn sgwennu amdanyn nhw.

Ryda ni wedi dod i osod meini prawf i ba brofiad sy’n cael ei ystyried yn deilwng, neu yn bellach, pa fath o brofiad y mae gan unigolyn yr hawl i’w drafod. Mae hi wedi dod yn ffasiwn yn y ganrif dd’wetha, ers i’r cysyniad o ‘Cultural Relativism’ ddod yn rhan o’r disgwrs poblogaidd i ni fod yn gyndyn o geisio cydymdeimlo trwy lenyddiaeth â unigolion o ddiwylliannau gwahanol rhag cael ein cyhuddo o fod yn ‘dwyn llais rhywun arall’, neu ‘fynegi profiad anawthentig’. Mae’r cwbwl wedi ei glymu’n dynn at y disgwrs ôl-goloniaidd, lle mae hanes o ddiwylliannau mwyafrifol yn defnyddio ei sefyllfa o rym diwylliannol vis-a-vis y diwylliannau lleiafrifol i fygu ei lleisiau. Mae o wedi digwydd i Genhedloedd Cyntaf Canada, i Roma Ewrop, ac yn y dehongliad prif-lif o ddiwylliant Islamaidd. Mae o hyd yn oed wedi digwydd i’r diwylliant Cymraeg trwy nofelau Celtophiliaidd Saesnig.

Rhaid peidio anwybyddu y risg o greu llenyddiaeth ymerodraethol, ond dyma lle mae’r syniad o brofiad yn dod yn allweddol. Wrth ddweud y dylid ymdrin yn ein llenyddiaeth a rhyfeloedd a thrychinebau tramor, nid esgusodi ystryd, diffyg crefft a meddiannu diwyllianol ydw i. Mae na ffordd o fynd ati i sgwennu am y profiadau dieithr hyn gan hefyd aros reit wrth flaenau ein traed. Ystyriwch y rheswm pam fod cymaint o feirdd yn teimlo’r ysfa i sgwennu ar y testunau yma o gwbl: gan amlaf mi fydd ganddyn nhw eu hymateb emosiynol eu hunain i’r digwyddiad, sy’n sbardyn i geisio creu. Y cangymeriad  mae nifer yn ei wneud ydi ceisio ysgrifennu am yr ymateb o safbwynt yr achos, yn hytrach na ymdrin a’r effaith, a thrwy  hynny fynd y tu hwnt i’w profiad. Mae’r profiad empathetig,  neu brofiad y tyst yn brofiadau dilys ynddyn nhw eu hynain.

Mi fydda i yn meddwl yn amal am eiriau Mary Catherine Hughes wrth Ellis yn y ffilm Hedd Wyn, pan mae o’n cwyno na all o sgwennu am ryfel am nad oedd ganddo brofiad o ryfel: “Mae gynno ni gyd brofiad ohono fo!” medde hi, ar y bont, yn y glaw. Nid sôn am y soldiwrs yn ymarfer ym Mron Aber oedd hi wrth ddweud hyn, ond am brofiad y tyst fel profiad dilys o ryfel.

Efallai mai’r ffordd orau felly o sgwennu am ryfel a thrais ydi gwneud hynny trwy safbwynt y tyst. Mae na nifer o feirdd yn llwyddo i wneud hyn yn llwyddiannus. Ystyriwch gerddi Iwan Llwyd- mae o’n mynegi y profiad gorllewinol cyfoes o ryfel i’r dim yn y linell “ac mae’r lluniau bob nos ar y satellite…” yn y gerdd Sgrifen yn y Tywod, ac wedyn yn y gerdd Aneirin trwy lygaid y newyddiadurwr rhyfel. A dyna i chi Menna Elfyn wedyn yn ysgrifennu am y rhyfel cartref ym Melffast, yn y gerdd ‘Er cof am Kelly’. Tydi hi ddim yn ceisio disgrifio y digwyddiad o safbwynt yr un o’r cymeriadau unigol, dim ond arsylwi, fel pry ar y wal, yn ddiymadferth i ymyrryd, gan gyfleu ein profiad ni o’r rhyfel- ei wylio o bell, heb allu ymyrryd.

Does na ddim modd gosod rhain yn yr un dosbarth a cherddi pobl fel Siegfreed Sassoon, Hedd Wyn, Miklos Radnoti, a beirdd eraill sy’n sgwennu mewn ymateb i brofiad union-gyrchol, ac ymdrechu i’w hefelychu nhw sy’n ein harwain, gan amla i dir peryg.

Peth peryg ydi ynysu ein hunain rhag profiadau’r byd. Wrth ddweud “ddyliwn i ddim sgwennu am hyn” mi ryda ni’n awgrymu  “nad ydi’r profiad yma yn fy effeithio i”, ac mae hynny yn fethiant ar ran yr artist i ymateb ar lefel ddynol. Does dim rhaid i ni fod wedi osgoi bwledi na rhoid ein bywyd mewn peryg i fedru sgwennu am drafferthion y byd. Mae dweud fod dioddefaint eraill y tu hwnt i’n profiad ni yn gwadu dynoliaeth y dioddefwr- mae ganddo ni ddyletswydd i ymdrechu i gael empathi tuag at ein gilydd- un o brif ddyletswyddau llenyddiaeth yn ôl rhai. Methiant yr artist yw’r methiant hwn i fynegi’r profiad.

A dyna fi wedi codi chydig o dresi fy hyn i chi fynd a chicio yn ei herbyn nhw

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s