Dwi rhy flin i feddwl am deitl.

Mae’n bosib y bydd fy nhad yn cael ei roi ar restr cyn bo hir. Y mae ein hybarch Ysgrifennydd Cartref, y foneddiges Amber Rudd wedi datgan ei dymuniad i wneud i fusnesau restru faint o weithwyr tramor sydd ganddyn nhw, er mwyn, mae’n debyg, eu cywilyddio nhw i gyflogi gweithwyr ‘Prydeinig’.

Eitemau arall ar ei too-doo list er mwyn cael mewnfudo “nol dan reolaeth” (Mwynhau’r eironi arferol o Saesnes yn cwyno am fewnfudo…) beth bynnag ydi’r diffiniad o ‘dan reolaeth’ (fel Japanese knot weed a gwiwerod llwyd am wn i) ydi’r canlynol:

  • Cosb i rentu ty i fewnfudwyr anghyfreithlon: Carchar
  • Eisiau leisens? Eich dogfennau, os gwelwch yn dda. (Cofio’r golygfeudd ‘na mewn ffilmiau o’r ail ryfel byd o foi blin mewn cot dywyll yn gofyn i bobol bach nerfys am eu ‘documents’?)
  • Eisiau agor cyfrif banc? Eich dogfennau os gwelwch yn dda.

Ac mae hi eisiau mynd ar ol y stiwdants. Duw a’n gwaredo, nid y stiwdants! : “the current system allows all students, irrespective of their talents and the university’s quality, favourable employment prospects when they stop studying.”  Cofio pan ddaeth bod eisiau job dda  ddod yn rywbeth i sbio lawr arno fo? Na, na finna chwaith.

Sori os ydw i’n swnio fymryn yn hysterical. Falle mod i’n cymryd y peth i gyd fymryn bach yn bersonol. Ond wedyn be sy’n fwy personol na gweld eich perthnasau a’ch ffrindiau yn cael eu labelu fel “undesirables” gan lywodraeth efo boch-tin chwanan o fwyafrif ac sydd wedi defnyddio un refferendwm dojy fel carteblanche i ailgynnau fflam yr anrhydeddus draddodiad ffasgaidd ym Mhrydain.

Mae’r gymhariaeth efo set arall nid an-enwog o sgwennwyr rhestrau yn un amlwg ac yn chydig o ystrydeb. Ond mae gan y rhestr draddodiad anrhydeddus o fod yn arwydd o drwbwl. Rhestrau ddaru ddanfon y torfeudd treisgar i gartrefi y Mwslemiad yn ystod Pogrom Gujarat yn 2002; Rhestrau oedd yn cofnodi enwau Cymry blaenllaw a ystyrrid yn elynion posib i Brydain yn ystod y rhyfel Byd; Ar restr yr yda ni yn rhoi pedoffiliaid a throseddwyr rhyw. Does na neb eisiau bod ar restr. Mor ddiniwed (!) ac ydi bwriad rhestr Amber Rudd, mae y weithred o restru, trwy ei chysylltiadau a anghyfiawnderau’r gorffenol yn stigmateiddio y rhestredig. Yn eu dethol fel criw ar wahan, fel creaduriaid allai fod yn beryglus, mae’r ensyniad yn un creulon. Ryda ni wedi gweld eisoes fel mae pleidlais Brexit wedi rhoi hyder i’r rhai yn ein mysg ni sydd eisiau ymosod a chamdrin aelodau o’r gymdeithas sydd ddim yn cwrdd a’i delfryd nhw o Brydain bur, a dim ond bwydo’r tan hwnnw a fydd rhethreg o ‘restru’.

Ro’n i’n flin ar ol y bleidlais Brexit. Dwi dal yn flin. A dwi’n erfyn ar bawb i barhau i fod yn flin, achos duw a’n helpo ni os wnawn ni gau ein clustaiu rhag hyn.

 

 

 

Un sylw am “Dwi rhy flin i feddwl am deitl.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s