Adolygiad : Hel llus yn y glaw

Hel Llus yn y Glaw (Cyhoeddiadau Barddas, £5.95)

 

image

Mae ‘na gerddi da i’w cael yn “Hel Llus yn y glaw”, cyfrol gyntaf y bardd o Lŷn a’r Caerdydd-iwr anesmwyth Gruffudd Owen. Mae na gerddi gwreiddiol, a ddelweddau ffresh. Ond fel wrth hel llus go iawn, mae angen trampian trwy gryn dipyn o frwgaij cyn cael hyd i’r ffrwyth.

Dyna heb os brif wendid y gyfrol hon. Mi fuasai hi wedi elwa ar ei chanfed o gael gwared o’r clutter cyn cael ei chyhoeddi. Y teimlad a geir yma ydi fod GO wedi taflu popeth oedd ganddo fo yn cuddio yn y ddrôr i mewn i’r gyfrol hon, heb ddethol gor-ofalus. Yndi, mae cael amrywiaeth yn beth da, a mi ydw innau’n hoffi pic a mics gymaint a neb- be nad ydw i yn ei fwynhau gymaint ydi cig oen wedi ei weini efo wine-gums, grefi a thafell o dorth frith.

Rydw i’n edmygu Gruffudd Owen fel stompiwr. Mae’n berfformiwr cryf ac yn gwybod sut i blesio torf, ond ar bapur, mae nifer o’r cerddi stompllyd hyn yn disgyn yn fflat. Dirgelwch i fi hefyd oedd pam iddo gynnwys cerddi fel ‘Zulu’, sy’n iawn yn eu cyd-destyn ond sydd yn ymddangos yn ymffrostgar ac ddim yn gwneud rhyw lawer o synnwyr o gael eu cynnwys yn y gyfrol. Roedd ‘Marwnad Pom’ yn gwneud mwy o synnwyr ar ôl clywed y cefndir ar raglen Dei Tomos, ond yn dal i ymddangos mwy fel ymarferiad nac fel darn o farddoniaeth gwerth ei rannu efo’r byd. Cerddi eraill y byddai’n well fod wedi eu hepgor fyddai y darnau o len meicro wedi eu gosod ar ffurf cerddi a grëwyd ar gyfer yr Her can cerdd.

Ond dyna ddigon am y chwyn, be felly am y ffrwyth? Mae cerddi fel ‘Dal dy Dir’, ‘Hunlun’, ‘Cymry uniaith olaf Llyn’, ‘Hel Llus yn y glaw’, ‘Dyhead’ ac ‘Y Sais o Lyn’ yn codi i dir llawer uwch yn fy nhyb i, ac yn eistedd yn eithaf anghyfforddus gyferbyn a’r cerddi a fwriedid i’w perfformio. Mae’r englyn ‘Gwion Bach’ yn agoriad effeithiol i’r gyfrol, yn cyflwyno syniadaeth ganolog(ish) y gyfrol yn syml a dirodres. Cerddi am brofiad bachgen o droi’n ddyn sydd i’w disgwyl yma.  Er fod “Ar ddibyn” yn dechrau yn addawol mae’r ergyd “…ac mae hynny’n dweud mwy amdanom ni/ nag amdanyn nhw” yn siomedig o ystrydebol, ac mae rhywun yn rhyw deimlo y byddai hi’n llwyr o fewn gallu GO i wneud yn well, yn enwedig o’i chymharu a’r englynion a ddaw nes ymlaen.

Un o gryfderau’r gyfrol ydi’r modd mae GO yn trin testunau yn ymwneud â hunaniaeth a Chymreictod heb sentimentalrwydd. Pan gyfeirir at y bwthyn bach neu fywyd y capel, mae ‘na chwerwder, eironi ac euogrwydd yn siŵr o fod yn lliwio’r ddelwedd. Nid rhyw Geiriog mo hwn. Mae’r gerdd “Llys: Neuadd Pantycelyn” yn taro hoelen ar ben perthynas y Cymry Cymraeg ifanc a’r adeilad hwnnw, heb or-ramantu: “…lle mae’r meddwl dwl yn dod/ I oractio Cymreictod.”

Mae’r ddawn yma i gyflwyno ergyd sydyn, farwol mewn englyn- ymysg y goreuon mae “Hunlun”, sy’n ddidrugaredd ei ddweud plaen, a wedyn “Cist”, sydd a’r ddelwedd o’r goriadau rhydlyd yn boenus o dlws. Anodd credu mai’r un person sy’n ysgrifennu y cerddi stomp dwl a doniol, a’r englynion tywyll hyn.

Yn neg tudalen olau’r gyfrol y dawn ni at y stwff gorau, yn fy nhyb i. Mae “Cymry uniaith olaf Llŷn” yn ymdrin yn onest a’r ysfa wrthnysig honno sydd gan gymaint o Gymry Cymraeg o gael bod yn uniaith, heb yr argyfyngau mewnol hynny sy’n dod efo dwyieithrwydd- “cael bod yn gyfan unwaith eto”. Hiwmor annisgwyl o dywyll sy’n y parodi “Pan fwyf yn hen a pharchus…” ac fel cerdd serch, mae “Hel llus yn y glaw” ymysg y tlysaf. A fynegwyd serch erioed mewn modd mor gynnil ac a wnaed yn y llinellau  hyn?

“Fe wyddwn bryd hynny,
a’th fysedd a’th wefusau’n biws
y deuem yma eto
i hel llus yn y glaw”

A wedyn dyna’r gerdd glo, “Y Sais o Lŷn” sy’n ein herio i ystyried beth yw ystyr iaith a hynaniaith, ac effaith hynny ar bwy ydym ni. Boom.

Mae yna’n sicr fwy nac un GO i’w gweld yn y gyfrol hon. Piti na fyddai Gruff y stompiwr wedi gadael i Gruff y bardd gael bod yn ganol llwyfan ar gyfer y gyfrol yma, i ni gael casgliad mwy miniog ac effeithiol.  A fyddai aros blwyddyn neu ddwy eto cyn cyhoeddi wedi sicrhau fod digon o gorff o waith ar gael fel nad oedd angen taflu holl gynnwys y ddrôr i mewn? Pwy a ŵyr.

Agolygiad: Y Gân Olaf

Er gwaethaf cael ei mawrygu fel y gyfrol “bwysicaf, o bosib, a gyhoeddwyd erioed gan Gyhoeddiadau Barddas” , cyfrol weddol gyffredin yw un o’r cyfrolau diweddara o’u gwasg, ‘Y gân olaf’. Heblaw am nofelti’r ffaith iddi gael ei chyhoeddi wedi marwolaeth y bardd, nid hon mo cyfrol fwya’ Gerallt o bell ffordd, ac er nad ydw i’n gyfarwydd a holl gynnwys bac-catalog Barddas, mae’n amheus gen i a ellir cyfri hon fel eu cyfrol fwya’ (byddai’n sobor o beth pe byddai!).

Gair amwys ei ystyr yw ‘pwysicaf’ wrth gwrs. Yn ôl pa linyn a fesurir pwysigrwydd cyfrol? O ran ei chynnwys, y bardd, neu ei heffaith? Pa rinweddau fyddai’n rhoi i hon bedestal yn y canon Cymreig? Does dim byd chwyldroadol yn y cynnwys na’i ffurf, a dim i awgrymu y bydd ganddi ddylanwad arbennig ar drywydd barddoniaeth y dyfodol. O ran gweithiau Gerallt ei hyn, o ran effaith ar y cydwybod Cymreig ac ar farddoniaeth Gymreig, mae ei ddwy gyfrol flaenorol yn sicr yn bwysicach. A beth bynnag, onid mater i genedlaethau’r dyfodol fydd penderfynu pwysigrwydd unrhyw gyfrol yn y pendraw?

Credaf fod Barddas wedi gwneud cam a’r gyfrol gyda’i gor-ddweud ymffrostgar. Codwyd disgwyliadau nifer sydd wedi mynegi siom yn y gyfrol i entrychion an-realistig, gan ein hatal rhag gwerthfawrogi y gyfrol hon am yr hyn ac yr ydi hi, sef cyfrol annwyl a syml o gerddi coffa, englynion ac phenillion.

Yn gyffredinol, alla i ddim dioddef cerddi coffa, neu gerddi priodas mewn cyfrol. Rhyw gymysgedd o sentimentalrwydd, yr angen am ‘fillers’ a golygyddion rhu laid-back mae’n debyg sy’n gyfrifol eu bod yn britho cymaint o gyfrolau, heb dalu ru’n ddime am eu lle. Yn amherthnasol eu testun i’r rhan fwyaf o ddarllenwyr, yn rhu bersonol a phenodol y profiad i gael eu gwerthfawrogi, ac yn waethaf oll yn dangos diffyg gwreiddioldeb ac yn ddarnau cyffredin iawn o ran safon. Bosib fod eu crefft yn gywir a chadarn, ond mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n methu fel darnau o gelf.

Camp Gerallt felly yn y gyfrol hon yw dangos sut mae ei gwneud hi go iawn. Does dim byd yn bod mewn stôl wedi ei llunio yn grefftus, ond os cymerwch lond stafell o stolion yr hyn sydd ganddo chi ydi siop ddodrefn, nid oriel gelf. Camp Gerallt oedd troi stolion crefftus yn gampweithiau celfyddydol. Mae ei gerddi coffa yn wreiddiol a gwefreiddiol, pob un yn unigryw ac yn peintio darlun byw o’r cymeriad. Does gen i ddim clem pwy oedd yr hybarch Foses Glyn Jones (mwya cywilidd i mi mae’n siŵr) ond mae cywydd Gerallt yn gwneud ei golled yn golled i ni gyd, ac mae ei ing yn goferu o’r dudalen. A cherdd roddodd ias i mi’n bersonol oedd y gerdd i Eirwyn Pentre, perthynas pell i mi nad oeddwn i’n ei adnabod ond a ddeuthum yn agosach iddo trwy gerdd Gerallt nag a fu mi erioed, a dyna’i grefft- gwneud i rywun deimlo dros farwolaeth dieithryn, fel dros Siôn y Glyn neu dros Owain ab Urien. Mae’r cerddi’n fyw ar boen yn rhan o’n profiad ni i gyd.

Cerddi sydd wedi profi yn chydig o farmite yn y gyfrol o’r hyn yr ydw i wedi ei glywed yw’r penillion, er fod rhain ymysg fy ffefrynnau i. Mae yna rywbeth Emily Dickinsonaidd yn y bennill “Ffynnon”, ac mae “Carol” yn rhoi ias i mi bob tro yr ydw i’n ei darllen, y cynildeb a’r stori sydd ynghudd to ol i’w llinellau. Dyma agwedd anghyfarwydd ar awen Gerallt, gwahanol a hyfryd. Weithiau mae angen hyder a phrofiad bardd aeddfed i roi ei ffydd mewn cerdd sy’n cyfleu mwy wrth ddweud llai.

A dyna ddod a ni’n daclus at englynion Gerallt, ac o ddarllen y gyfrol hon bron y byddai wedi bod werth cyhoeddi cyfrol o englynion Gerallt ar wahân. Does fawr ddim a ellir dweud am englynion Gerallt nac sydd wedi cael ei ddweud eisoes, dim ond y dylid eistedd nol a’i mwynhau. Ffefryn personol gen i oedd “Penllyn”, ond pleser oedd darllen y rhanfwyaf.

Mae’r gyfrol yn eang o ran themâu, a bosib mae dyma ei phrif wendid fel cyfrol. Teimlwn fod Mab y Bwthyn er enghraifft ddim yn perthyn yn yr un gyfrol ac Eirwyn Pentre, ac y byddai cadw’r gyfrol at gerddi mwy personol wedi bod yn well. Mae’n na deimlad ‘miscelanious’ i’r casgliad, ychydig fel bocs eiddo coll, sy’n naturiol o gofio natur ei chyhoeddi, ond sydd yn amharu ar y darn fel cyfanwaith.  Roedd y diarhebion hefyd yn poeni rhyw fymryn arna i. Tra fod rhai yn llwyddo, doedd eraill ddim wastad yn taro deuddeg, a gwell fyddai petae nhw wedi cael eu hepgor.

Er gwaetha hynny, mae hon yn gyfrol annwyl, bersonol ac ingol, ac o fynd ati efo disgwyliadau rhesymol, un a fydd yn cael ei mwynhau am amser maith. Nid ydi hi’n anghyffredin mewn unrhyw ffordd amlwg, ond yr hyn sydd yn ei dyrchafu yw’r ffordd feistriolgar y lluniwyd y pethau cyffredin hyn, nes gwneud iddyn nhw ddisgleirio