Adolygiad : Hel llus yn y glaw

Hel Llus yn y Glaw (Cyhoeddiadau Barddas, £5.95)

 

image

Mae ‘na gerddi da i’w cael yn “Hel Llus yn y glaw”, cyfrol gyntaf y bardd o Lŷn a’r Caerdydd-iwr anesmwyth Gruffudd Owen. Mae na gerddi gwreiddiol, a ddelweddau ffresh. Ond fel wrth hel llus go iawn, mae angen trampian trwy gryn dipyn o frwgaij cyn cael hyd i’r ffrwyth.

Dyna heb os brif wendid y gyfrol hon. Mi fuasai hi wedi elwa ar ei chanfed o gael gwared o’r clutter cyn cael ei chyhoeddi. Y teimlad a geir yma ydi fod GO wedi taflu popeth oedd ganddo fo yn cuddio yn y ddrôr i mewn i’r gyfrol hon, heb ddethol gor-ofalus. Yndi, mae cael amrywiaeth yn beth da, a mi ydw innau’n hoffi pic a mics gymaint a neb- be nad ydw i yn ei fwynhau gymaint ydi cig oen wedi ei weini efo wine-gums, grefi a thafell o dorth frith.

Rydw i’n edmygu Gruffudd Owen fel stompiwr. Mae’n berfformiwr cryf ac yn gwybod sut i blesio torf, ond ar bapur, mae nifer o’r cerddi stompllyd hyn yn disgyn yn fflat. Dirgelwch i fi hefyd oedd pam iddo gynnwys cerddi fel ‘Zulu’, sy’n iawn yn eu cyd-destyn ond sydd yn ymddangos yn ymffrostgar ac ddim yn gwneud rhyw lawer o synnwyr o gael eu cynnwys yn y gyfrol. Roedd ‘Marwnad Pom’ yn gwneud mwy o synnwyr ar ôl clywed y cefndir ar raglen Dei Tomos, ond yn dal i ymddangos mwy fel ymarferiad nac fel darn o farddoniaeth gwerth ei rannu efo’r byd. Cerddi eraill y byddai’n well fod wedi eu hepgor fyddai y darnau o len meicro wedi eu gosod ar ffurf cerddi a grëwyd ar gyfer yr Her can cerdd.

Ond dyna ddigon am y chwyn, be felly am y ffrwyth? Mae cerddi fel ‘Dal dy Dir’, ‘Hunlun’, ‘Cymry uniaith olaf Llyn’, ‘Hel Llus yn y glaw’, ‘Dyhead’ ac ‘Y Sais o Lyn’ yn codi i dir llawer uwch yn fy nhyb i, ac yn eistedd yn eithaf anghyfforddus gyferbyn a’r cerddi a fwriedid i’w perfformio. Mae’r englyn ‘Gwion Bach’ yn agoriad effeithiol i’r gyfrol, yn cyflwyno syniadaeth ganolog(ish) y gyfrol yn syml a dirodres. Cerddi am brofiad bachgen o droi’n ddyn sydd i’w disgwyl yma.  Er fod “Ar ddibyn” yn dechrau yn addawol mae’r ergyd “…ac mae hynny’n dweud mwy amdanom ni/ nag amdanyn nhw” yn siomedig o ystrydebol, ac mae rhywun yn rhyw deimlo y byddai hi’n llwyr o fewn gallu GO i wneud yn well, yn enwedig o’i chymharu a’r englynion a ddaw nes ymlaen.

Un o gryfderau’r gyfrol ydi’r modd mae GO yn trin testunau yn ymwneud â hunaniaeth a Chymreictod heb sentimentalrwydd. Pan gyfeirir at y bwthyn bach neu fywyd y capel, mae ‘na chwerwder, eironi ac euogrwydd yn siŵr o fod yn lliwio’r ddelwedd. Nid rhyw Geiriog mo hwn. Mae’r gerdd “Llys: Neuadd Pantycelyn” yn taro hoelen ar ben perthynas y Cymry Cymraeg ifanc a’r adeilad hwnnw, heb or-ramantu: “…lle mae’r meddwl dwl yn dod/ I oractio Cymreictod.”

Mae’r ddawn yma i gyflwyno ergyd sydyn, farwol mewn englyn- ymysg y goreuon mae “Hunlun”, sy’n ddidrugaredd ei ddweud plaen, a wedyn “Cist”, sydd a’r ddelwedd o’r goriadau rhydlyd yn boenus o dlws. Anodd credu mai’r un person sy’n ysgrifennu y cerddi stomp dwl a doniol, a’r englynion tywyll hyn.

Yn neg tudalen olau’r gyfrol y dawn ni at y stwff gorau, yn fy nhyb i. Mae “Cymry uniaith olaf Llŷn” yn ymdrin yn onest a’r ysfa wrthnysig honno sydd gan gymaint o Gymry Cymraeg o gael bod yn uniaith, heb yr argyfyngau mewnol hynny sy’n dod efo dwyieithrwydd- “cael bod yn gyfan unwaith eto”. Hiwmor annisgwyl o dywyll sy’n y parodi “Pan fwyf yn hen a pharchus…” ac fel cerdd serch, mae “Hel llus yn y glaw” ymysg y tlysaf. A fynegwyd serch erioed mewn modd mor gynnil ac a wnaed yn y llinellau  hyn?

“Fe wyddwn bryd hynny,
a’th fysedd a’th wefusau’n biws
y deuem yma eto
i hel llus yn y glaw”

A wedyn dyna’r gerdd glo, “Y Sais o Lŷn” sy’n ein herio i ystyried beth yw ystyr iaith a hynaniaith, ac effaith hynny ar bwy ydym ni. Boom.

Mae yna’n sicr fwy nac un GO i’w gweld yn y gyfrol hon. Piti na fyddai Gruff y stompiwr wedi gadael i Gruff y bardd gael bod yn ganol llwyfan ar gyfer y gyfrol yma, i ni gael casgliad mwy miniog ac effeithiol.  A fyddai aros blwyddyn neu ddwy eto cyn cyhoeddi wedi sicrhau fod digon o gorff o waith ar gael fel nad oedd angen taflu holl gynnwys y ddrôr i mewn? Pwy a ŵyr.

Elements

Tydw i ddim yn sgwennu yn Saesneg yn amal iawn, ond pan ddaeth y gwahoddiad i sgwennu cerdd ar gyfer y prosiect yma doeddwn i methu dweud na!

Cerwch i sbio ar fwy o waith y sinematograffydd Bernat Eguiluz, o Farselona,  yn fama: http://bernateguiluz.com/ mae na stwff hollol lysh yna!