Be ydi’r pwynt?

Mae hi wedi dod i’r amlwg fod neb yn swyddfeydd S4C yn dallt eironi bellach. I ddathlu gŵyl ein nawddsant hoff mae gwybodusion y sianel wedi penderfynu cyflwyno isdeitlau Saesneg awtomatig ar raglenni am bum niwrnod. Ymgais, mae’n debyg, i ddenu mwy o wylwyr di-gymraeg at y sianel, neu fel y mae nhw’n ei ddweud:

Yn gyntaf, ambell i beth ymarferol: a) Mae isdeitlau yn amharu ar y profiad gwylio i wylwyr Cymraeg. Pan yr yda ni’n gweld geiriau wedi ei hysgrifenu mewn iaith yr yda ni’n ei ddeall, ryda ni’n darllen y geiriau yna yn awtomatig:

“Most literate adults cannot or do not ignore words even when it is to their advantage to do so.”

Yda chi erioed wedi trio y gem ‘na o ddarllen lliwiau? Coch Gwyrdd Melyn GlasBeth sydd haws, darllen y gair neu enwi lliw y ffont? Wrth wylio rhaglen efo is-deitlau, mae rhywun yn darllen yr isdeitlau yn awtomatig, ac mae darllen isdeitlau mewn un iaith a gwrando ar sgwrs mewn iaith arall yn tarfu ar y gwylio. Da i S4C gofio weithiau mai er mwyn pleser, ac nid o ddyletswydd mae Cymry Cymraeg (i fod) i wylio’r sianel.

b)  O ran y ddadl fythol honno “Ystyriwch y dysgwyr!”, isdeitlau Cymraeg sydd fwyaf o help i ddysgwyr. Dal dysgwyr yn ol mae isdeitlau Saesneg, gan fod rhywun yn teimlo fel eu bod nhw’n ymarfer eu Cymraeg, ond heb herio ei hynain na ddatblygu rhyw lawer mewn gwirionedd. Mae darllen isdeitlau Cymraeg yn help i ddeallt y sgwrs ac yn cryfhau sgiliau iaith, ac yn gwbwl resymol i unhryw un sydd wedi cyraedd lefel A2 mewn iaith (yr ail lefel o’r 6 safon Ewropeaidd).

Ond dyna ni,  nid am ddenu gwylwyr mae hyn yn y bôn naci? Cyfiawnhau eu raison d’etre mae S4C unwaith eto,  fel y mae’r Urdd yn ei wneud bob tro mae prifweithredwr newydd yn pwysleisio ei huchelgais penna o ddenu mwy o ddi-gymraeg i’r mudiad.  Dydi bod yn fudiad neu sefydliad sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer y gymuned Gymraeg ei hiaith ddim yn reswm digon da bellach, mae’n ymddangos.

Bob tro mae ‘na ryw anesmwythyd ynglyn a chyllid neu gefnogaeth wleidyddol, mae sefydliadau Cymreig am y cyntaf i egluro gymaint mae nhw’n ei wneud i drio dennu y di-Gymraeg at eu haelwyd. Be mae hyn yn ei wneud ond cadarnhau y rhagfarn fod darparu ar gyfer y Gymraeg ynddo’i hyn ddim yn bwrpas digonol?

Does neb yn disgwyl i’r BBC ddatblygu eu cynilleidfa yn Sweden. Mae bod yn gorfforaeth ddarlledu Brydeinig, Saesneg ei hiaith yn cael ei derbyn fel raison d’etre digonol. Cyfrifoldeb rhywun arall ydi Sweden. Gadawed i’r BBC boeni am ei chynilleidfa graidd.

Sut stad sydd ar ffigyrau aelodaeth yr Urdd yn Eryri erbyn hyn tybed? Faint o aelodau sy’n cael cyfle cyson i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyson drwy Urdd- faint sydd ddim ond yn ymaelodi er mwyn cystadlu mewn un steddfod gylch, unwaith y flwyddyn? Ond na, nid gwella ei darpariaeth ar gyfer cymunedau Cymreig ‘mo blaenoriaeth yr Urdd bellach mae’n debyg (mor ddirfawr ac mae’r angen yn rhai o’r cymunedau yna bellach).

Ac S4C- be am y miloedd o siaradwyr Cymraeg sydd byth yn troi at y sianel? A digon o rheini yn aelwydydd uniaith? Pa ddathliad pum niwrnod sy’n cael ei baratoi ar eu cyfer nhw?

Rhaid i ni beidio chwarae’r gêm wirion yma o ruthro i gyfiawnhau ein bodolaeth.  Ryda ni’n bodoli,  mae hi’n iawn ac yn deg i ni gael gwasanaethau yn ein hiaith ein hynain. Diwedd y ddadl. Trwy blygu drosodd i ddenu cynilleidfa ddi-Gymraeg ryda ni’n gwneud dim ond cadarnhau amheuon y commenters Daily Mail sy’n arthio “It’s just a made up language, whats the point…” ayb. Os nad ydi’n siannel ni ein hynain yn “gweld y pwynt”, yna pa obaith? Nid raison d’etre S4C ydi darparu cynnwys ar gyfer y di-gymraeg –  os ie,  yna mae isdeitlau yn ffordd dila iawn o fynd ati. Os gwneud rhywbeth,  ei wneud o’n iawn S4C bach- dybiwch y rhaglenni i gyd i’r Saesneg.

Gadwch i ni gael yr hyder i beidio ymddiheuro dros ein bodolaeth, ia?

 

Adolygiad : Hel llus yn y glaw

Hel Llus yn y Glaw (Cyhoeddiadau Barddas, £5.95)

 

image

Mae ‘na gerddi da i’w cael yn “Hel Llus yn y glaw”, cyfrol gyntaf y bardd o Lŷn a’r Caerdydd-iwr anesmwyth Gruffudd Owen. Mae na gerddi gwreiddiol, a ddelweddau ffresh. Ond fel wrth hel llus go iawn, mae angen trampian trwy gryn dipyn o frwgaij cyn cael hyd i’r ffrwyth.

Dyna heb os brif wendid y gyfrol hon. Mi fuasai hi wedi elwa ar ei chanfed o gael gwared o’r clutter cyn cael ei chyhoeddi. Y teimlad a geir yma ydi fod GO wedi taflu popeth oedd ganddo fo yn cuddio yn y ddrôr i mewn i’r gyfrol hon, heb ddethol gor-ofalus. Yndi, mae cael amrywiaeth yn beth da, a mi ydw innau’n hoffi pic a mics gymaint a neb- be nad ydw i yn ei fwynhau gymaint ydi cig oen wedi ei weini efo wine-gums, grefi a thafell o dorth frith.

Rydw i’n edmygu Gruffudd Owen fel stompiwr. Mae’n berfformiwr cryf ac yn gwybod sut i blesio torf, ond ar bapur, mae nifer o’r cerddi stompllyd hyn yn disgyn yn fflat. Dirgelwch i fi hefyd oedd pam iddo gynnwys cerddi fel ‘Zulu’, sy’n iawn yn eu cyd-destyn ond sydd yn ymddangos yn ymffrostgar ac ddim yn gwneud rhyw lawer o synnwyr o gael eu cynnwys yn y gyfrol. Roedd ‘Marwnad Pom’ yn gwneud mwy o synnwyr ar ôl clywed y cefndir ar raglen Dei Tomos, ond yn dal i ymddangos mwy fel ymarferiad nac fel darn o farddoniaeth gwerth ei rannu efo’r byd. Cerddi eraill y byddai’n well fod wedi eu hepgor fyddai y darnau o len meicro wedi eu gosod ar ffurf cerddi a grëwyd ar gyfer yr Her can cerdd.

Ond dyna ddigon am y chwyn, be felly am y ffrwyth? Mae cerddi fel ‘Dal dy Dir’, ‘Hunlun’, ‘Cymry uniaith olaf Llyn’, ‘Hel Llus yn y glaw’, ‘Dyhead’ ac ‘Y Sais o Lyn’ yn codi i dir llawer uwch yn fy nhyb i, ac yn eistedd yn eithaf anghyfforddus gyferbyn a’r cerddi a fwriedid i’w perfformio. Mae’r englyn ‘Gwion Bach’ yn agoriad effeithiol i’r gyfrol, yn cyflwyno syniadaeth ganolog(ish) y gyfrol yn syml a dirodres. Cerddi am brofiad bachgen o droi’n ddyn sydd i’w disgwyl yma.  Er fod “Ar ddibyn” yn dechrau yn addawol mae’r ergyd “…ac mae hynny’n dweud mwy amdanom ni/ nag amdanyn nhw” yn siomedig o ystrydebol, ac mae rhywun yn rhyw deimlo y byddai hi’n llwyr o fewn gallu GO i wneud yn well, yn enwedig o’i chymharu a’r englynion a ddaw nes ymlaen.

Un o gryfderau’r gyfrol ydi’r modd mae GO yn trin testunau yn ymwneud â hunaniaeth a Chymreictod heb sentimentalrwydd. Pan gyfeirir at y bwthyn bach neu fywyd y capel, mae ‘na chwerwder, eironi ac euogrwydd yn siŵr o fod yn lliwio’r ddelwedd. Nid rhyw Geiriog mo hwn. Mae’r gerdd “Llys: Neuadd Pantycelyn” yn taro hoelen ar ben perthynas y Cymry Cymraeg ifanc a’r adeilad hwnnw, heb or-ramantu: “…lle mae’r meddwl dwl yn dod/ I oractio Cymreictod.”

Mae’r ddawn yma i gyflwyno ergyd sydyn, farwol mewn englyn- ymysg y goreuon mae “Hunlun”, sy’n ddidrugaredd ei ddweud plaen, a wedyn “Cist”, sydd a’r ddelwedd o’r goriadau rhydlyd yn boenus o dlws. Anodd credu mai’r un person sy’n ysgrifennu y cerddi stomp dwl a doniol, a’r englynion tywyll hyn.

Yn neg tudalen olau’r gyfrol y dawn ni at y stwff gorau, yn fy nhyb i. Mae “Cymry uniaith olaf Llŷn” yn ymdrin yn onest a’r ysfa wrthnysig honno sydd gan gymaint o Gymry Cymraeg o gael bod yn uniaith, heb yr argyfyngau mewnol hynny sy’n dod efo dwyieithrwydd- “cael bod yn gyfan unwaith eto”. Hiwmor annisgwyl o dywyll sy’n y parodi “Pan fwyf yn hen a pharchus…” ac fel cerdd serch, mae “Hel llus yn y glaw” ymysg y tlysaf. A fynegwyd serch erioed mewn modd mor gynnil ac a wnaed yn y llinellau  hyn?

“Fe wyddwn bryd hynny,
a’th fysedd a’th wefusau’n biws
y deuem yma eto
i hel llus yn y glaw”

A wedyn dyna’r gerdd glo, “Y Sais o Lŷn” sy’n ein herio i ystyried beth yw ystyr iaith a hynaniaith, ac effaith hynny ar bwy ydym ni. Boom.

Mae yna’n sicr fwy nac un GO i’w gweld yn y gyfrol hon. Piti na fyddai Gruff y stompiwr wedi gadael i Gruff y bardd gael bod yn ganol llwyfan ar gyfer y gyfrol yma, i ni gael casgliad mwy miniog ac effeithiol.  A fyddai aros blwyddyn neu ddwy eto cyn cyhoeddi wedi sicrhau fod digon o gorff o waith ar gael fel nad oedd angen taflu holl gynnwys y ddrôr i mewn? Pwy a ŵyr.

Dawnsio ar y dibyn

Mae’r winllan dan warchae a’r gwynt yn chwibanu dan y drws. Ryda ni gam y nes at y dibyn. Hoelen arall yn yr arch, blaidd wrth y drws ayyb.

Felly mae hi’n medru teimlo weithia’ beth bynnag. Mae hi’n hawdd bod yn or-ddramatig ar ôl y misoedd o newyddion drwg ynglŷn a chyllido sefydliadau sy’n gwasanaethu’r Gymuned Gymraeg ei hiaith. Cyfres o ymosodiadau di-ball ar gonglfeini y diwylliant. S4C, y cyngor llyfrau, y llyfrgell genedlaethol, ond hefyd ar sefydliadau cymunedol lleol, ein llyfrgelloedd, a’n adnoddau cyhoeddus. Ymosodiadau o bob tu, o lywodraeth y cynulliad yn ogystal a San Steffan. Dyddia du bois bach.

Dydi’r gymuned Gymraeg ei hiaith ddim yn gymuned sydd a rhyw lawer o rym economaidd. Mae hi’n rhy fach i fod yn farchnad apelgar i gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae grymoedd y farchnad rydd yn ffafrio dymuniadau y mwyafrif dros y lleiafrif, ac mae’r arian yn llifo i’r pant dyfnaf. Anfantais ddwbwl y Gymraeg ydi fod y gymuned hefyd wedi ei lleoli yn un o ranbarthau tlotaf y DU. Dydi economeg ddim o’n plaid ni, ac i gynnal darpariaeth o safon Ewropeaidd yn y Gymraeg rhaid ar bres cyhoeddus. Dwi’n ail-adrodd ystrydeb, ond nid mewn punnoedd  mae mesur yr ennillion o fuddsoddiad mewn iaith.

Mae’r toriadau yma yn fygythiad i economi, diwylliant a chymunedau Cymreig. Wrth grebachu diwydianau creadigol Cymru mae’r toriadau yma’n bygwth crebachu economi wledig a threfol, a’r swyddi hynny sy’n caniatau i gynifer o Gymru Cymraeg (boed Yuppies neu ddim) aros a gweithio yn eu cymunedau. Mae’n bygwth gallu y gymuned ieithyddol i greu cynnwys safonol yn y Gymraeg, cynnwys all gystadlu gyda’r farchnad Saesneg. Byddai’n well gen i fedru dweud “cystadlu a’r farchnad fyd-eang”, ac er fod hynny i raddau yn wir hefyd, rhaid wynebu’r sefyllfa yng Nghymru mai troi at y Saesneg fyddwn ni pan fyddwn ni’n newid o S4C, neu’n rhoi’r Cymro i’r naill ochor. “Cystal a unrhywbeth yn Lloegr” ydi un o’r geiriau gorau o ganmoliaeth o hyd wrth adolygu cynnwys Cymraeg. Heb yr arian, mae safon yn siŵr o ostwng. Bydd golygyddion a chynhyrchwyr yn fwy cyndyn o gymryd risg efo stwff newydd, arbrofol a bydd y celfyddydau yng Nghymru yn aros yn eu hynfan. Er engraiffrt, mae’n amheus gen i a fydd nofel arall fel Ebargofiant yn cael ei chyhoeddi yn y byd ol-doriadau.

Da ni’n wynebu dyfodol du lle mae re-runs o Dudur Owen a’r noson Lawen, nofelau am galedi bywyd gwledig a phobol yn yfed te yn tra-arglwyddiaethu ein bywyd diwyllianol. Sownd at ein gliniau mewn cors gelfyddydol.

A na, nid dadlau o blaid cynnwys elitaidd, arbrofol ydw i- dim ond fod pob diwylliant ei angen o, fel mae nhw angen operau-sebon a diwylliant pop. Mae ei angen o, achos rhywle yn y canol rhwng noson lawen a Ebargofiant mae diwylliant poblogaidd yn bod, ddigon newydd i fod yn ffresh, difgon traddodiadol i fod yn gysurus gyfarwydd.

Persecution Complex Cymreig yntau ofn rhesymol fod ein diwylliant am gael ei ddifa?

Mae o’n ddarlun du uffernol, ond fel dwi wedi deud, mae darogan gwae yn hobi genedlaethol gan y Cymru. Mi ryda ni’n hoff iawn o gwyno pa mor ddu ydi pethe arnom ni. A ma pethe yn reit ddu. Ond tasa ni’n rhoi mwy o’r egni yr yda ni’n ei ddefnyddio yn poeni at greu, mi fyddai hi’n dipyn gwell arnom ni. Digon o feddwl am beth sy’n ein herbyn ni, beth sydd o’n plaid ni?

Mi ryda ni’n wlad ddatblygedig ac yn byw mewn cyfnod lle mae hi’n haws a rhatach nac erioed creu a rhannu cynnwys (gair hyll ond dyna ni). Rhaid i ni fynd allan a gneud pethe’n hyn, boed hynny’n ffotocopïo ffanzines llenyddol ar beiriant ffotocopïo y llyfrgell leol (os oes na un dal gennych chi!), yn recordio podcasts ar eich ffon, perfformio’ch drama abswrdaidd yn neuadd y capel, neu beintio cerddi ar glogwyni. Rhaid i ni rygnu mlaen gore fedrwn ni. Mae’r Gymraeg wedi diodde dipyn go lew dros y blynyddoedd a dod drwyddi. Efo dychymyg a dyfeisgarwch mi ddown ni drwyddi tro’ma hefyd.  Iawn, mi fydd ein gallu ni i greu cynnwys sgleiniog, swish ar gyfer y gynulleidfa ddosbarth canol, chwaethus wedi cloffi rhywfaint, on wneith gwthio chydig o egni amrwd, blêr i mewn i’r diwylliant ddim drwg i ni chwaith. Oes, mae angen cwffio i gadw yr hyn sydd gennym ni, ond mae hi’n bell o fod ar ben arnom ni. Golygyddion yn gyndyn o argraffu dy nofel wyddonias, ôl-fodernaidd, LGBT di? Argraffa hi dy hyn mewn serial ar lein. Wneid di ddim dima goch, ond roeddet ti’n gwybod hynny cyn cychwyn yn doeddet?

Mae o eisioes yn digwydd. Mae ‘na ddigonedd o bobol allan yna, sydd wedi gweld bwlch a wedi mynd ati i’w lenwi fo heb boeni am nawdd a ballu, ac yn llwyddo i neud iddo fo weithio drwy styfnigrwydd, lwc neu jest grym ewyllus.

Brenines y llyfrau antur

Flwyddyn nesa mi fydd hi’n 50 mlynedd ers marw Elizabeth Watkin-Jones, ond dwi heb glywed unrhyw son am gynlluniau i ddathlu ei gwaith hi. Mi fyddwn ni wedi rhedeg allan o falŵns ar ôl dathlu cymaint ar T.Llew i ddathlu EW-J dwi’n ofni. Felly dwi am ei dathlu hi yn fama, jest i fod yn wahanol.

Doeddwn ni ddim yn cin ar stwff T.Llew pan oeddwn i’n iau, a dwi ddim yn dweud hynny er mwyn trio tynnu oddi ar fawredd T.Llew o gwbwl. Fedrai wir werthfawrogi ei gyfraniad o i lenyddiaeth plant Cymru, ond doedd o jest ddim at fy chwaeth i. Maddeuwch imi’ nghyfeilorni, ond hogan Elizabeth Watkin-Jones oeddwn i.

Dwi ddim yn cofio lle cefais i fy nghopi o treuliedig o Luned Bengoch, ond dwi’n amau mai Tenevous Caernarfon oedd o. (Roedd fano wastad yn le da am lyfrau Cymraeg ail-law yn Dre- dim o’r paper-back romances ‘na oedd yn llenwi silffoedd y Groes Goch a British Heart.). Mi wirionais i yn llwyr- doeddwn i heb ddarllen dim byd tebyg yn y Gymraeg o’r blaen. Yn Saesneg mi ro’n i’n darllen llyfrau fel nofelau Alice Turner Curtis a’i arwresau ffrogedig o ryfel annibyniaeth America (mae gen i stori drasig yn ymwneud a chopi argraffiad cyntaf prin o “Little Maid of Bunker Hill a jel pen binc..), neu anturiaethau merched Ann Rinaldi a Elizabeth George Speare yn y rhyfel Cartref a’r rhyfel Ffrangeg-ac-Indiaidd. Straeon lle roedd merched ifanc, 10-14 oed yn ymgymryd ac anturiaethau cyffroes a pheryglus, gan gyflawni gorchestau fyddai’n newid cwrs hanes, mewn ffyrdd bychain. Roedd Luned Bengoch fel y llyfrau yma ond yn well, am ei bod wedi ei lleoli yn y Gymru hanesyddol (gan gofio fod hanes Cymru yn brin fel cyraints mewn brechdan ham ar sylabus ysgolion Cymru..). ‘Crych’ oedd fy hoff air i am flwyddyn gron ar ôl darllen y llyfr, ac mi benderfynais i yn y fan a’r lle byddwn i’n galw fy mhlentyn cynta yn ‘Luned’. O fanno wedyn dyma lowcio y lleill fel gast newynog, gan ei hail ddarllen nhw drosodd a throsodd.

Mae prif-gymeriadau benywaidd, anturus dipyn prinnach mewn llenyddiaeth plant Cymraeg nac ydyn nhw yn y canon Saesneg cyfatebol (neu o leia mi roedd hynny’n wir 5-10 mlynedd yn ol pan o’n i’n darllen llenyddiaeth plant yn weddol reolaidd). Lle roedd yna gyfoeth o arwresau benywaidd Saesneg i’w heilynu (ydi hwnna’n air?), alla i ddim cofio fawr ddim ohonyn nhw yn y Gymraeg. Bosib fod hynny am fod cymaint o lenyddiaeth plant yn y Gymraeg yn cael ei gomisiynu i ffitio proffil penodol, a fod prinder o fechgyn yn darllen a fod cymeriadau benywaidd yn switch-off iddyn nhw mae’n debyg. Crincs. Ond rhaid cofio fod darllen yn rhoi mwy na dim ond y sgil o ffurfio geiriau o lythrennau i ni. Mae’r hyn yr yda ni’n ei ddarllen yn ifanc (ac wedyn pan yn hyn) yn siapio’n byd-olwg, ein hynaniaeth a’n disgwyliadau ni mewn bywyd. Heb arwresau yn ogystal ac arwyr, ryda ni’n llwgu ein merched ifanc o’r cyfle i ddychmygu eu hunain fel arwresau. Dyma’r rhodd roddodd llyfrau Elizabeth Watkin-Jones i mi.

Erbyn hyn mae’r nofelau allan o brint,   ac siopau elysen a stondinau ail-law steddfod ydi’r llefydd gora i ddod o hyd iddyn nhw. Ond a’r dolig yn prysyr ddod, mi allech chi wneud yn waeth na llithro un o lyfrau Elisabeth Watkin-Jones i mewn i hosan ryw hogan neu hogyn bach lwcus.

Sex politics yn y pafiliwn pinc

Mae’r orsedd, o’u chenhedliad i’w hymgnawdoliad cyfoes yn sefydliad bizarre. Honco bost. Ond un rhan o’r sefydliad sy’n fy nharo i’n fymryn rhyfeddach na’r gweddill ydi busnes y Fam a Morwyn y fro ‘ma.

Mae defod yn dibynnu ar symboliaeth er mwyn cael ystyr. Mewn ffordd, does ots pa ystyr a fwriedir gan yr un sy’n creu’r symbol, oherwydd y dehongliad ym mhen y gwyliwr sy’n rhoi’r ystyr. Mae’r crewr yn farw, fel petai (yn llythrennol yn yr achos hwn, R.I.P. Iolo x / Cynan) felly er na wn i pa ystur a fwriedid gan ddylunwyr gwreiddiol y ddefod, mae’r ysgrif yma’n seiliedig ar fy nehongliad personol i ohoni.

Mae’r orsedd a’i seremonïau wedi hen arfer a chyhuddiadau o rywoliaethrwydd, a hithau’n llawn man swyddogaethau sy’n cyfyngu ar sail rhyw, o’r macwyiaid i ferched y ddawns flodau. Ond un rhan o’r ddefod sydd yn mynd ar fy nerfa i ydi rol Morwyn a Mam y fro. Ystyr Morwyn, wrth gwrs, ydi, merch sydd heb gael rhyw; a mam ydi dynes sydd yn amlwg wedi cael rhyw ar ryw bwynt yn ei bywyd. Ond nid dim ond nodi dau gyfnod mewn bywyd dynes a geir yma. Mae yna sylw normadol cynnil, ond hynaflyd ar foesau rhywiol merched. Trwy alw y ferch ifanc yn ‘Forwyn’ rydym yn pwysleisio arwyddocad ei bywyd rhywiol. Mae galw’r ddynes yn ‘Fam’ yn ei phwysleisio fel dynes sy’n cael rhyw at bwrpas cenhedlu. Mae virgins yn ok, a merched parchus sy’n cael rhyw er mwyn cael plant, ond does na ddim lle i ferched sy’n cael rhyw am hwyl o fewn parchusrwydd yr orsedd. Nid fod mamau ddim yn mwynhau rhyw, dwi’n siwr fod nifer ohonyn nhw yn, ond mae galw’r cymeriadau yma o fewn y panto yn ‘fam’ a ‘morwyn’, yn hytrach na ‘merch’ a ‘dynes’ neu rywbeth tebyg yn pwysleisio rhyw a’i bwrpas mewn bywyd merch, ac o fewn cymdeithas.

Mae’r neges yn bellgyrhaeddol. Os chwilio am ystyr, gellid ei ddehongli fel awgrym mai pwrpas merched yw edrych yn ddel a chenhedlu. Mae’n awgrymu fod gwyryfdod yn ran bwysig o hynaniaeth, neu werth merch. Hyn gan sefydliad sydd ond newydd gael eu harchdderwydd benywaidd cyntaf… (Diweddariad: Ac erbyn 2018 sydd a’i harchdderwydd yn son am bwysigrwydd ‘y dynion tu ol iddyn nhw’ i feirdd benywaidd #Geraintgate)

Mae’n debyg nad dyna sy’n dod i feddwl y rhelyw wrth wylio’r ddefod, a tydi o ddim yn agos at fod y mater pwysica sy’n ein hwynebu ni fel Cymru Cymraeg. Dwn i ddim ydi ‘morwyndod’ y Forwyn yn, be ddwedwch chi, yn fater technegol, er fod adroddiad o 2001 yn awgrymu fod posibilrwydd i hyn fod yn broblem ar un adeg. Ond mewn byd lle mae heddweision a milwyr benywaidd yng Indonesia yn gorfod wynebu profion gwyryfdod gorfodol, a lle mae merched yn cael eu dienyddio am gael rhyw y tu allan i ffiniau priodas, traha fyddai diystyru y mater a arwyddocâd y ddefod. Un o’r pethau bach yna ydi o, ac fel yw natur nifer o bethau bach, mater bach fyddai ei ddiwigio. Rhywbeth i ystyried pan ddaw hi’n amser ail-wampio rhywfaint ar y defodau. Gall moderneiddio ymgorffori ei hyn mewn mwy nag un ffordd, a phan ddaw’r ddadl moderneiddio i blagio’r orsedd eto, tybed ai moderneiddio aestheteg yntau gwerthoedd fydda nhw?