Be ydi’r pwynt?

Mae hi wedi dod i’r amlwg fod neb yn swyddfeydd S4C yn dallt eironi bellach. I ddathlu gŵyl ein nawddsant hoff mae gwybodusion y sianel wedi penderfynu cyflwyno isdeitlau Saesneg awtomatig ar raglenni am bum niwrnod. Ymgais, mae’n debyg, i ddenu mwy o wylwyr di-gymraeg at y sianel, neu fel y mae nhw’n ei ddweud:

Yn gyntaf, ambell i beth ymarferol: a) Mae isdeitlau yn amharu ar y profiad gwylio i wylwyr Cymraeg. Pan yr yda ni’n gweld geiriau wedi ei hysgrifenu mewn iaith yr yda ni’n ei ddeall, ryda ni’n darllen y geiriau yna yn awtomatig:

“Most literate adults cannot or do not ignore words even when it is to their advantage to do so.”

Yda chi erioed wedi trio y gem ‘na o ddarllen lliwiau? Coch Gwyrdd Melyn GlasBeth sydd haws, darllen y gair neu enwi lliw y ffont? Wrth wylio rhaglen efo is-deitlau, mae rhywun yn darllen yr isdeitlau yn awtomatig, ac mae darllen isdeitlau mewn un iaith a gwrando ar sgwrs mewn iaith arall yn tarfu ar y gwylio. Da i S4C gofio weithiau mai er mwyn pleser, ac nid o ddyletswydd mae Cymry Cymraeg (i fod) i wylio’r sianel.

b)  O ran y ddadl fythol honno “Ystyriwch y dysgwyr!”, isdeitlau Cymraeg sydd fwyaf o help i ddysgwyr. Dal dysgwyr yn ol mae isdeitlau Saesneg, gan fod rhywun yn teimlo fel eu bod nhw’n ymarfer eu Cymraeg, ond heb herio ei hynain na ddatblygu rhyw lawer mewn gwirionedd. Mae darllen isdeitlau Cymraeg yn help i ddeallt y sgwrs ac yn cryfhau sgiliau iaith, ac yn gwbwl resymol i unhryw un sydd wedi cyraedd lefel A2 mewn iaith (yr ail lefel o’r 6 safon Ewropeaidd).

Ond dyna ni,  nid am ddenu gwylwyr mae hyn yn y bôn naci? Cyfiawnhau eu raison d’etre mae S4C unwaith eto,  fel y mae’r Urdd yn ei wneud bob tro mae prifweithredwr newydd yn pwysleisio ei huchelgais penna o ddenu mwy o ddi-gymraeg i’r mudiad.  Dydi bod yn fudiad neu sefydliad sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer y gymuned Gymraeg ei hiaith ddim yn reswm digon da bellach, mae’n ymddangos.

Bob tro mae ‘na ryw anesmwythyd ynglyn a chyllid neu gefnogaeth wleidyddol, mae sefydliadau Cymreig am y cyntaf i egluro gymaint mae nhw’n ei wneud i drio dennu y di-Gymraeg at eu haelwyd. Be mae hyn yn ei wneud ond cadarnhau y rhagfarn fod darparu ar gyfer y Gymraeg ynddo’i hyn ddim yn bwrpas digonol?

Does neb yn disgwyl i’r BBC ddatblygu eu cynilleidfa yn Sweden. Mae bod yn gorfforaeth ddarlledu Brydeinig, Saesneg ei hiaith yn cael ei derbyn fel raison d’etre digonol. Cyfrifoldeb rhywun arall ydi Sweden. Gadawed i’r BBC boeni am ei chynilleidfa graidd.

Sut stad sydd ar ffigyrau aelodaeth yr Urdd yn Eryri erbyn hyn tybed? Faint o aelodau sy’n cael cyfle cyson i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyson drwy Urdd- faint sydd ddim ond yn ymaelodi er mwyn cystadlu mewn un steddfod gylch, unwaith y flwyddyn? Ond na, nid gwella ei darpariaeth ar gyfer cymunedau Cymreig ‘mo blaenoriaeth yr Urdd bellach mae’n debyg (mor ddirfawr ac mae’r angen yn rhai o’r cymunedau yna bellach).

Ac S4C- be am y miloedd o siaradwyr Cymraeg sydd byth yn troi at y sianel? A digon o rheini yn aelwydydd uniaith? Pa ddathliad pum niwrnod sy’n cael ei baratoi ar eu cyfer nhw?

Rhaid i ni beidio chwarae’r gêm wirion yma o ruthro i gyfiawnhau ein bodolaeth.  Ryda ni’n bodoli,  mae hi’n iawn ac yn deg i ni gael gwasanaethau yn ein hiaith ein hynain. Diwedd y ddadl. Trwy blygu drosodd i ddenu cynilleidfa ddi-Gymraeg ryda ni’n gwneud dim ond cadarnhau amheuon y commenters Daily Mail sy’n arthio “It’s just a made up language, whats the point…” ayb. Os nad ydi’n siannel ni ein hynain yn “gweld y pwynt”, yna pa obaith? Nid raison d’etre S4C ydi darparu cynnwys ar gyfer y di-gymraeg –  os ie,  yna mae isdeitlau yn ffordd dila iawn o fynd ati. Os gwneud rhywbeth,  ei wneud o’n iawn S4C bach- dybiwch y rhaglenni i gyd i’r Saesneg.

Gadwch i ni gael yr hyder i beidio ymddiheuro dros ein bodolaeth, ia?

 

Dawnsio ar y dibyn

Mae’r winllan dan warchae a’r gwynt yn chwibanu dan y drws. Ryda ni gam y nes at y dibyn. Hoelen arall yn yr arch, blaidd wrth y drws ayyb.

Felly mae hi’n medru teimlo weithia’ beth bynnag. Mae hi’n hawdd bod yn or-ddramatig ar ôl y misoedd o newyddion drwg ynglŷn a chyllido sefydliadau sy’n gwasanaethu’r Gymuned Gymraeg ei hiaith. Cyfres o ymosodiadau di-ball ar gonglfeini y diwylliant. S4C, y cyngor llyfrau, y llyfrgell genedlaethol, ond hefyd ar sefydliadau cymunedol lleol, ein llyfrgelloedd, a’n adnoddau cyhoeddus. Ymosodiadau o bob tu, o lywodraeth y cynulliad yn ogystal a San Steffan. Dyddia du bois bach.

Dydi’r gymuned Gymraeg ei hiaith ddim yn gymuned sydd a rhyw lawer o rym economaidd. Mae hi’n rhy fach i fod yn farchnad apelgar i gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae grymoedd y farchnad rydd yn ffafrio dymuniadau y mwyafrif dros y lleiafrif, ac mae’r arian yn llifo i’r pant dyfnaf. Anfantais ddwbwl y Gymraeg ydi fod y gymuned hefyd wedi ei lleoli yn un o ranbarthau tlotaf y DU. Dydi economeg ddim o’n plaid ni, ac i gynnal darpariaeth o safon Ewropeaidd yn y Gymraeg rhaid ar bres cyhoeddus. Dwi’n ail-adrodd ystrydeb, ond nid mewn punnoedd  mae mesur yr ennillion o fuddsoddiad mewn iaith.

Mae’r toriadau yma yn fygythiad i economi, diwylliant a chymunedau Cymreig. Wrth grebachu diwydianau creadigol Cymru mae’r toriadau yma’n bygwth crebachu economi wledig a threfol, a’r swyddi hynny sy’n caniatau i gynifer o Gymru Cymraeg (boed Yuppies neu ddim) aros a gweithio yn eu cymunedau. Mae’n bygwth gallu y gymuned ieithyddol i greu cynnwys safonol yn y Gymraeg, cynnwys all gystadlu gyda’r farchnad Saesneg. Byddai’n well gen i fedru dweud “cystadlu a’r farchnad fyd-eang”, ac er fod hynny i raddau yn wir hefyd, rhaid wynebu’r sefyllfa yng Nghymru mai troi at y Saesneg fyddwn ni pan fyddwn ni’n newid o S4C, neu’n rhoi’r Cymro i’r naill ochor. “Cystal a unrhywbeth yn Lloegr” ydi un o’r geiriau gorau o ganmoliaeth o hyd wrth adolygu cynnwys Cymraeg. Heb yr arian, mae safon yn siŵr o ostwng. Bydd golygyddion a chynhyrchwyr yn fwy cyndyn o gymryd risg efo stwff newydd, arbrofol a bydd y celfyddydau yng Nghymru yn aros yn eu hynfan. Er engraiffrt, mae’n amheus gen i a fydd nofel arall fel Ebargofiant yn cael ei chyhoeddi yn y byd ol-doriadau.

Da ni’n wynebu dyfodol du lle mae re-runs o Dudur Owen a’r noson Lawen, nofelau am galedi bywyd gwledig a phobol yn yfed te yn tra-arglwyddiaethu ein bywyd diwyllianol. Sownd at ein gliniau mewn cors gelfyddydol.

A na, nid dadlau o blaid cynnwys elitaidd, arbrofol ydw i- dim ond fod pob diwylliant ei angen o, fel mae nhw angen operau-sebon a diwylliant pop. Mae ei angen o, achos rhywle yn y canol rhwng noson lawen a Ebargofiant mae diwylliant poblogaidd yn bod, ddigon newydd i fod yn ffresh, difgon traddodiadol i fod yn gysurus gyfarwydd.

Persecution Complex Cymreig yntau ofn rhesymol fod ein diwylliant am gael ei ddifa?

Mae o’n ddarlun du uffernol, ond fel dwi wedi deud, mae darogan gwae yn hobi genedlaethol gan y Cymru. Mi ryda ni’n hoff iawn o gwyno pa mor ddu ydi pethe arnom ni. A ma pethe yn reit ddu. Ond tasa ni’n rhoi mwy o’r egni yr yda ni’n ei ddefnyddio yn poeni at greu, mi fyddai hi’n dipyn gwell arnom ni. Digon o feddwl am beth sy’n ein herbyn ni, beth sydd o’n plaid ni?

Mi ryda ni’n wlad ddatblygedig ac yn byw mewn cyfnod lle mae hi’n haws a rhatach nac erioed creu a rhannu cynnwys (gair hyll ond dyna ni). Rhaid i ni fynd allan a gneud pethe’n hyn, boed hynny’n ffotocopïo ffanzines llenyddol ar beiriant ffotocopïo y llyfrgell leol (os oes na un dal gennych chi!), yn recordio podcasts ar eich ffon, perfformio’ch drama abswrdaidd yn neuadd y capel, neu beintio cerddi ar glogwyni. Rhaid i ni rygnu mlaen gore fedrwn ni. Mae’r Gymraeg wedi diodde dipyn go lew dros y blynyddoedd a dod drwyddi. Efo dychymyg a dyfeisgarwch mi ddown ni drwyddi tro’ma hefyd.  Iawn, mi fydd ein gallu ni i greu cynnwys sgleiniog, swish ar gyfer y gynulleidfa ddosbarth canol, chwaethus wedi cloffi rhywfaint, on wneith gwthio chydig o egni amrwd, blêr i mewn i’r diwylliant ddim drwg i ni chwaith. Oes, mae angen cwffio i gadw yr hyn sydd gennym ni, ond mae hi’n bell o fod ar ben arnom ni. Golygyddion yn gyndyn o argraffu dy nofel wyddonias, ôl-fodernaidd, LGBT di? Argraffa hi dy hyn mewn serial ar lein. Wneid di ddim dima goch, ond roeddet ti’n gwybod hynny cyn cychwyn yn doeddet?

Mae o eisioes yn digwydd. Mae ‘na ddigonedd o bobol allan yna, sydd wedi gweld bwlch a wedi mynd ati i’w lenwi fo heb boeni am nawdd a ballu, ac yn llwyddo i neud iddo fo weithio drwy styfnigrwydd, lwc neu jest grym ewyllus.

Be, Drafft Bill Cymru yn siomedig? ‘Da chi ‘rioed yn deud!

Dwi’m yn siŵr faint o egni mae rhywun yn medru ei roi mewn i fod yn flin am rywbeth sydd ddim yn syndod o gwbwl. Oes yna unrhyw un wir wedi synnu efo cynnwys y Bill Drafft Cymru (sôn am enw trwsgl)? I fod wedi siomi, rhaid eich bod chi wedi disgwyl rhywbeth gwell. Y teimlad cryfaf alla i ddychmygu neb yn ei deimlo mewn ymateb i’r cyhoeddiad yma ydi diflastod efo’r holl broses hirwyntog.

Difyr ydi gwylio arweinwyr y pleidiau yn datgan ei gwrthwynebiad i’r bill fel llefarwyr mewn steddfod bentre. Leanne yn ail-adrodd y linell arferol am ‘sarhad’ a Cymru fel ‘cenedl eilradd’, mewn datganiad llawn cyhuddiadau amwys ac anodd eu mesur.

Roedd Carwyn yntau i weld wedi exceitio braidd, yn darogan gwae a rhywbeth oedd o’n ei alw’n “immense constitutional crisis”. Rywun gael mwg o horlics i’r creadyr.

Mae pawb yn gutted fod y bil mor wantan. Mi fyddwn ni’n cael y fraint o fedru newid enw’r Cynulliad (er, dwn i ddim beth fyddai eu hymateb nhw petau ni’n newid yr enw i “Llywodraeth Genedlaethol Gweriniaeth Annibynnol Cymru”), ac mi gawn ni edrych ar ôl y gwaith siwej a’r taxis, fel rhyw gyngor sir gor-bwerys. Y newid mwyaf arwyddocal mae’n siŵr ydi’r newid i’r sustem materion wedi eu cadw, fydd yn creu mwy o eglurdeb (gobeithio) ynglŷn a pha faterion fydd wedi eu datganoli. Hynny, a’r ffaith, yn ol y Pleidiau yng Nghaerdydd y bydd geiriad y bil yn golygu de-fact veto Seisnig tros ddeddfau Cymreig.

I fod yn deg i Loegr, mae’r Bill Cymru newydd yn un gwbwl resymol yn wleidyddol. Mi ryda ni trwy ddatganoli wedi dewis gwahaniaethu’n diddordebau ar sail tiriogaethol a chenedlaethol, a hynny ar gynsail y ffaith fod gennym ni fuddianau gwahanol. Tra fod gan lywodraeth Lloegr y gallu i atal Cymru rhag rhoi buddianau Lloegr mewn peryg, mae hi’n gwbwl rhesymol fod Lloegr yn ceisio gwneud hynny. Pa wladwriaeth werth ei halen fyddai’n wirfoddol roi’r grym i lywodraeth arall allu bygwth eu buddiannau?

Y gwir ydi fod San Steffan mewn sefyllfa anghyffyrddys o ran datganoli pŵer. Mae’n ymddangos wrth roi grym i’r Alban eu bod nhw wedi rhoi modfedd a’r Alban wedi cymryd llath, tra ar y llaw arall yng Nghatalonia tydi  polisi Madrid o wrthod cyfaddawdu ar fater Calanunya heb eu helpu nhwythau chwaith. Does na’m ennill i’w weld.

Ar ol ffiasgo’r Alban tydi’r Toriaid ddim eisiau hybu datganoli, ac  mae’n ymddangos mae polisi o gadernid sydd am weithio orau i warchod buddianau San Steffan. Mwy o rym neu llai o rym, mae’r ymateb yng Nghymru yn parhau yn llygoer, a heb wasg rydd, annibynnol, safonol i addysgu a chynnal trafodaeth tydi deffroad ddim yn edrych yn debygol. Mae’r status quo yn weddol gadarn, efo chwildro a la’r SNP yn annhebygol. Pa fantais sydd yna i San Steffan dros roi mwy neu llai o rym i Gaerdydd? Does gen lywodraeth Doriaid ddim llawer o bleidleisiau i’w colli yma, a wneith pandran i’r blaid Lafur yng Nghaerdydd ddim ennill unrhyw bleidleisiau iddyn nhw chwaith. Gan nad ydi’r blaid doriaidd yn debygol fyth o gael grym yn y cynulliad, dydi’r ysgogiad yna, sydd fymryn cryfach i’r blaid Lafur ddim yn mynd i fod yn eu gyrru nhw chwaith. Dwn i ddim be ydi barn yr etholaeth Seisnig ar gynyddu datganoli Cymreig, ond dwi’m yn meddwl y bydd o’n ‘vote-winner’ i neb. Mae paragraff agoriadol y rhagair y drafft yn adrodd cyfrolau am fwriad y bil:

“Mae’r Llywodraeth Un Genedl hon wedi ymrwymo i greu Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig gref a llwyddiannus. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pobl Cymru’n cael setliad datganoli clir a fydd yn para’n hir.”

Dyna’i deud hi’n reit glir, mi ryda chi’n ran o’r DU, yn ranbarth nid cenedl, a dyna ddiwedd y mater.

Y pwynt yn fama ydi mai naif ydi unrhyw un sy’n mynegi siom na fyddai llywodraeth San Steffan, heb orfodaeth neu fantais amlwg yn dewis datganoli grym yn wirfoddol. Nid buddianau Cymru ydi’r flaenoriaeth. Mi ryda ni’n gwybod hynny ers canrifoedd. Os oedd angen cael ein hatgoffa o hynny, onid ydi penblwydd Tryweryn yr wythnos yma yn darlunio hynny yn glir? Faint saffach ydi buddianau Cymru hanner canrif yn ddiweddarach. Os am warchod ein buddianau, rhaid i ni weithio drostyn nhw ein hynain, a peidio eu disgwyl nhw’n rhodd gan San Steffan.

***

Yn y cyfamser, mae’r nonsens ag ydi’r cynllun “English votes for English laws” wedi cael eu gymeradwyo gan dŷ’r cyffredin. Wir yr rŵan, bron na fydde chi’n meddwl fod y llywodraeth yma eisiau i Brydain gael ei thorri i fyny!

Dwi off i ddarllen Lenin’s theory of Imperialism ac i grio dros dy nghawl cenin. Nos dawch.

Cyngor Gwynedd

Mae’n debyg fod cabinet Cyngor Gwynedd dan dipyn o bwysau y dyddiau yma, o’r capitulation ar statws eglwysig Ysgol newydd y Bala, i’r awgrym o gau pont Abar, y cynllun i gau llyfrgelloedd a chanolfanau hamdden y sir i’r penderfyniad i gau canolfan Manton, mae’n amlwg fod penderfyniadau anodd i’w gwenud er mwyn arbed arian. Hoffwn gynnig chydig o ffyrdd pellach o arbed arian i’r cyngor i’w hystyried:

  • Troi castell Caernarfon yn westy boutique
  • Codi treth ar baent lliw yn Llanberis
  • Gwerthu Ynys Enlli i Iwerddon
  • Dadgomisiynu yr A470 rhwng Trawsfynydd a Dolgellau
  • Rhentu Abersoch i gyngor dinas Manceinion
  • Gwerthu eu hanner nhw o bont Menai fel metal sgrap

Gobeithio y bydd rhain yn help iddynt yn eu brwydr i leihau gwariant, gwastraff, ac rhwydweithiau isadeiledd o fewn y sir.

Sex politics yn y pafiliwn pinc

Mae’r orsedd, o’u chenhedliad i’w hymgnawdoliad cyfoes yn sefydliad bizarre. Honco bost. Ond un rhan o’r sefydliad sy’n fy nharo i’n fymryn rhyfeddach na’r gweddill ydi busnes y Fam a Morwyn y fro ‘ma.

Mae defod yn dibynnu ar symboliaeth er mwyn cael ystyr. Mewn ffordd, does ots pa ystyr a fwriedir gan yr un sy’n creu’r symbol, oherwydd y dehongliad ym mhen y gwyliwr sy’n rhoi’r ystyr. Mae’r crewr yn farw, fel petai (yn llythrennol yn yr achos hwn, R.I.P. Iolo x / Cynan) felly er na wn i pa ystur a fwriedid gan ddylunwyr gwreiddiol y ddefod, mae’r ysgrif yma’n seiliedig ar fy nehongliad personol i ohoni.

Mae’r orsedd a’i seremonïau wedi hen arfer a chyhuddiadau o rywoliaethrwydd, a hithau’n llawn man swyddogaethau sy’n cyfyngu ar sail rhyw, o’r macwyiaid i ferched y ddawns flodau. Ond un rhan o’r ddefod sydd yn mynd ar fy nerfa i ydi rol Morwyn a Mam y fro. Ystyr Morwyn, wrth gwrs, ydi, merch sydd heb gael rhyw; a mam ydi dynes sydd yn amlwg wedi cael rhyw ar ryw bwynt yn ei bywyd. Ond nid dim ond nodi dau gyfnod mewn bywyd dynes a geir yma. Mae yna sylw normadol cynnil, ond hynaflyd ar foesau rhywiol merched. Trwy alw y ferch ifanc yn ‘Forwyn’ rydym yn pwysleisio arwyddocad ei bywyd rhywiol. Mae galw’r ddynes yn ‘Fam’ yn ei phwysleisio fel dynes sy’n cael rhyw at bwrpas cenhedlu. Mae virgins yn ok, a merched parchus sy’n cael rhyw er mwyn cael plant, ond does na ddim lle i ferched sy’n cael rhyw am hwyl o fewn parchusrwydd yr orsedd. Nid fod mamau ddim yn mwynhau rhyw, dwi’n siwr fod nifer ohonyn nhw yn, ond mae galw’r cymeriadau yma o fewn y panto yn ‘fam’ a ‘morwyn’, yn hytrach na ‘merch’ a ‘dynes’ neu rywbeth tebyg yn pwysleisio rhyw a’i bwrpas mewn bywyd merch, ac o fewn cymdeithas.

Mae’r neges yn bellgyrhaeddol. Os chwilio am ystyr, gellid ei ddehongli fel awgrym mai pwrpas merched yw edrych yn ddel a chenhedlu. Mae’n awgrymu fod gwyryfdod yn ran bwysig o hynaniaeth, neu werth merch. Hyn gan sefydliad sydd ond newydd gael eu harchdderwydd benywaidd cyntaf… (Diweddariad: Ac erbyn 2018 sydd a’i harchdderwydd yn son am bwysigrwydd ‘y dynion tu ol iddyn nhw’ i feirdd benywaidd #Geraintgate)

Mae’n debyg nad dyna sy’n dod i feddwl y rhelyw wrth wylio’r ddefod, a tydi o ddim yn agos at fod y mater pwysica sy’n ein hwynebu ni fel Cymru Cymraeg. Dwn i ddim ydi ‘morwyndod’ y Forwyn yn, be ddwedwch chi, yn fater technegol, er fod adroddiad o 2001 yn awgrymu fod posibilrwydd i hyn fod yn broblem ar un adeg. Ond mewn byd lle mae heddweision a milwyr benywaidd yng Indonesia yn gorfod wynebu profion gwyryfdod gorfodol, a lle mae merched yn cael eu dienyddio am gael rhyw y tu allan i ffiniau priodas, traha fyddai diystyru y mater a arwyddocâd y ddefod. Un o’r pethau bach yna ydi o, ac fel yw natur nifer o bethau bach, mater bach fyddai ei ddiwigio. Rhywbeth i ystyried pan ddaw hi’n amser ail-wampio rhywfaint ar y defodau. Gall moderneiddio ymgorffori ei hyn mewn mwy nag un ffordd, a phan ddaw’r ddadl moderneiddio i blagio’r orsedd eto, tybed ai moderneiddio aestheteg yntau gwerthoedd fydda nhw?

Pam fy mod i’n casau twristiaid

Mae pawb yn casáu twristiaid- mae nhw’n llenwi lonydd gwledig efo’i gyrru gwael a’u carafans araf, yn cyflawni troseddau enbyd yn erbyn deddfau ynganiad, yn cerdded yn rhu araf ar hyd palmentydd cul, ac, wel, jest yn boen cyffredinol yn nhin pawb. A tydu eu heffaith negyddol nhw byth yn fwy amlwg na pam ma rywun yn dwrist ei hyn. Does na ddim byd yn sbwylio gwyliau yn fwy na bod yn hyper-ymwybodol o ddirmyg y bobol leol tuag ato chi (dyna pam dwi mor hoff o ddwyrain Ewrop- efo fy acen gref a wynepryd amwys ei darddiad, ma’ nhw’n cymryd mod i’n un ohonyn nhw fel arfer).

Ond y peth diweddara i gythruddo trigolion trefi glan-mor a phot-mel Cymru ydi’r honiad gan Chris Osborne, cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru fod yr iaith Gymraeg “weithiau’n mynd yn y ffordd” i’r twristiaid hynny sy’n mentro dod yma. Ac mae o’n bwynt dilys. Yntydi enwau an-ynganadwy wedi bod yn destun trallod i nifer dros y blynyddoedd? Y miloedd sydd wedi wynebu’r her o ynganu Ljubljana ar ol un gwydryn yn ormod o’r gwin lleol; y lluoedd dryslyd sydd wedi ceisio yn ofer a dod o hyd i lafariad yn enw ‘Brno’. Fi fy hyn, a fethodd y bws ola (i Frno, digwydd bod) ar ôl methu cynnig yr ynganiad cywir o ‘Nadrazi Florenc’ i yrrwr tacsi difynedd; ac wrth gwrs, pwy all anghofio y trueiniaid hynny a gafodd eu hunain yn sownd ym maes awyr Reykjavík , maint eu galar wedi eu luosogi gan eu hanallu i ynganu achos eu tristwch: Eyjafjallajökull. Nid problem Gymreig mo hon o bellffordd.

Felly pam y cynddeiriogi? Os ydw i fy hynnan wedi dioddef yn sgil melltith yr enw anynganadwy, pam felly fod fy stumog yn troi o glywed yr awgrym y dylid addasu, neu (dduw a’n gwaredo) ddyfeisio enwau newydd ar gyfer llefydd Cymreig? Oni fyddai bywyd yn haws i bawb, twristiaid yn hapusach, gyrwyr lorris tramor yn medru ffendio ei ffordd yn well, ac wrth gwrs, coffrau y gwestai a thai bwyta a siopau cofroddion yn gorlifo a cheiniogau dieithriaid? Hwylustod a llawenydd i bawb. I fod.

Yn syml, ma’r syniad yn troi ar rywun achos fod rhywun yn teimlo fod gan dwristiaid ddim hawl i fyny’r fath fraint. Mae effaith twristiaith i’w weld dros y byd i gyd, o draethau cyforiog Cancun i ddiffeithdir carafaniog Prestatyn, o buteindai Vaclavske Namesti i bentre pysgota Benidorm. Pob man y mae twristiaid yn cyrraedd, mae nhw’n creithio, ac er gwaetha’r holl fudd economaidd honedig, all rhywun ond peidio llidio. Mi allech chi sgwennu traethodau lu ar y spin Ol-drefedigaethol, marxisist, neu Leninist ar ddiwydiant twristiaeth, Anglo-ddominyddedig, gorllewinol a’i effaith ar gymunedau a’i diwylliant, ond sgennai’m mynadd. Y gwir amdani ydi fod dicter nifer yn deillio o’r teimlad sylfaenol o anghyfiawnder fod angen newid er mwyn twristiaid, a nhwythau’n ddim mwy na ymwelwyr dros dro, heb dalu treth cyngor na fynychu’r un pwyllgor neuadd na dim.

Mae’r math o dwristiaeth sy’n achosi newid andwyol i gymunedau,  fel yr hyn sydd wedi digwydd i gynifer o lefydd, o ynysoedd Sbaeneg i arfordir gogledd Cymru, yn dwristiaeth anghyfrifol. Fel dwed y slogan “take nothing but pictures, leave nothing but footprints” dylai pob ymwelydd geisio cael cynlleied a phosib o effaith ar y cymunedau a ymwelir a nhw. Fel arall yr hyn fydd gennym ni ydi teurnas rhyngwladol o dafarndai Gwyddelig a static carafans, a phwy fydd eisiau mynd ar eu gwyliau i fanno?

Mi fydd pobol yn dal i fynd i Ljubljana, Brno a Reykjavík waeth be fydda nhw’n cael ei galw, a fentra i na fydda newid enw Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwyllllantysiliogogogoch  yn perswadio dim mwy o bobol i fynd i fanno chwaith. Felly Croeso i Gymru gyfeillion, teithiwch yn gyfrifol.