Be ddigwyddodd i’r geiriau?

Mae rhaid mod i wedi methu’r memo diwethaf gan yr Oxford English Dictionary ynglyn a newid ystyr y gair ‘hiliaeth’. Rydw i, er mawr cwilidd wedi bod yn llafurio dan y camargraff mai gair yn cyfeirio at ragfarn, gwahaniaethu neu elyniaeth tuag at berson o hil wahanol, yn seiliedig ar y gred fod hil yn gwneud unigolyn yn israddol, oedd hiliaeth. Y diffiniad newydd ydi “unrhyw un sy’n deud unrhyw beth cas, creulon neu sarhaus am unrhywun, ar ba bynnag sail”. Gweler, er engraifft yr erthygl hon ar y bbc, yn gofyn a yw cartwn sarhaus o ffoadur Syriaidd yn hiliol

“I want to live a safe and clean life, eat gourmet food, go out, wear pretty things, and live a luxurious life… all at the expense of someone else,” reads the text on the illustration above. “I have an idea. I’ll become a refugee.” –BBC, 2015

Yn ol y diffiniad traddodiadol, yr ateb i’r cwestiwn a ydi hyn yn hiliol ydi nac ydi siwr. Yn ol yr hyn dwi’n ei ddeallt o’r erthygl (Tydi fy Siapanieg i ddim cweit ddigon da i ddarllen y testyn gwreiddiol) ymosod ar yr eneth ar sail y ffaith ei bod hi’n ffoadur mae’r cartwn, nid am ei bod hi o Syria. A hyd y gwn i, tydi ‘Ffoadur’ ddim eto yn cyfri fel hil, er mor amheus y term. Mae hi’n wir fod sail y cartwn, sef cyffredinoli a chasau ar sail rhagfarn yn debyg i sail hiliaeth. Ond nid canfyddiad o Syriaid fel hil israddol ydi sail y rhagfarnau hyn, a dyna’r pwynt allweddol. Mae o’n gartwn afiach am ddigon o resymau teilwng, heb orfod swingio’r R-word o gwmpas.

Mae’n debyg ein bod ni, mewn oes o soundbites a symlder wedi anghofio am bethau fel cynildeb ystyr a manwl gywirdeb. Pam chwilio am air priodol pan y gwnaiff gweiddi’r gair “hiliaeth” y tro i dynnu sylw’r lluoedd at yr anghyfiawnder dan sylw? Pam yn wir wahaniaeth rhwng unrhyw fath o ragfarn?

Rhagfarn. Dyma’r gair allweddol. Mae na gymaint o wahanol arlliwiau o ragfarn. Hiliaeth, sexism, homophobia, anti-Semitism, misogyny, misandry, mae hi’n restr hirfaith. Ac mae na reswm pam fod pob un o’r termau hyn yn bodoli. Mae na bwer mewn geiriau. Mae rhagfarn yn air gwan. Mae o’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pob dim, o fy nrwgdybieth personol i o drigolion Llanuwchllyn hyd at hil-laddiad graddfa mor eang nes ei fod o tu hwnt i amgyffred, ac mae’r cyffredinoldeb yma yn ei wneud o’n air gwan. Mae hiliaeth ar y llaw arall yn air cryf. Dyma air sy’n dwyn i’r cof erchyllterau deddfau Jim Crow a lynch mobs, deddfau Neurenburg a Kristlnacht, Srebrenica a Žepa, a therfysg Gujarat. Grym y gair sy’n ei wneud o’n arf mor allweddol wrth ymladd yn erbyn trais yr heddlu tuag at hogia du yn America, ac wrth wrthwynebu naratifs gwrth-Islamaidd yn y DU. Gwae ni rhag dwyn grym y gair.

Ond mae na  reswm arall pam fod angen defnyddio’r gair hwn yn gyfrifol. Pob tro yr yda ni’n defnyddio’r gair “hiliaeth” i ddisgrifio gweithred neu agwedd sy’n ffiaidd, ond sydd ddim wirioneddol yn hiliol, mi ryda ni yn tansilio y gwir reswm pam fod y weithred neu’r agwedd honno’n ffiaidd. Trwy ei gam enwi ryda ni’n ei wneud yn anoddach i’w ymadd a’i adnabod, ac yn anoddach i’w wrthwynebu.

Gadewch i ni fynd yn ol at y cartwn Siapaniaidd. Mae na ddigon o resymau teilwng tros ei alw’n ffiaidd, fel ei agwedd Xenophobaidd, ei agwedd sinigaidd tuag at bobol mewn angen, y dirmyg cyffredinol tuag at ein cyd-ddyn. Tebyg iawn i hiliaeth, dwi’n cyfadde, ond mae’r diafol yn y manylion, chwedl y Sais. Mae’n gallu ni i ymladd y drygioni yma yn dibynnu i raddau helaeth ar ein gallu ni i’w henwi, ac felly eu hadnabod nhw. The pen is mightier than the sword medde nhw- a be mae’r feiro honno yn sgwennu ond geiriau?

Cyngor Gwynedd

Mae’n debyg fod cabinet Cyngor Gwynedd dan dipyn o bwysau y dyddiau yma, o’r capitulation ar statws eglwysig Ysgol newydd y Bala, i’r awgrym o gau pont Abar, y cynllun i gau llyfrgelloedd a chanolfanau hamdden y sir i’r penderfyniad i gau canolfan Manton, mae’n amlwg fod penderfyniadau anodd i’w gwenud er mwyn arbed arian. Hoffwn gynnig chydig o ffyrdd pellach o arbed arian i’r cyngor i’w hystyried:

  • Troi castell Caernarfon yn westy boutique
  • Codi treth ar baent lliw yn Llanberis
  • Gwerthu Ynys Enlli i Iwerddon
  • Dadgomisiynu yr A470 rhwng Trawsfynydd a Dolgellau
  • Rhentu Abersoch i gyngor dinas Manceinion
  • Gwerthu eu hanner nhw o bont Menai fel metal sgrap

Gobeithio y bydd rhain yn help iddynt yn eu brwydr i leihau gwariant, gwastraff, ac rhwydweithiau isadeiledd o fewn y sir.

Ffodauriaid, communitarianism a llen anwybodaeth

Mi wnaeth y llun o Alan Kurdi ar y traeth yn Nhwrci ddeffro cydwybod miliynau o ddinasyddion Ewrop i’r argyfwng dyngarol eithriadol sy’n ein hwynebu, ac mae wedi arwain at brotestiadau ar draws y cyfandir, o Gaernarfon i Fadrid, o blaid croesawu mwy o ffoaduriaid i mewn i ‘fortress Europe’.

DSCF2122

Protest ‘Croeso i ffoaduriaid’ ar Calle Atocha, Madrid, 12/9/15

Er yr ymateb ymddangosiadol galonogol, mae’r drafodaeth ar fewnfudo wedi datgelu math annifir iawn o genedlaetholdeb ymysg nifer. Y cenedlaetholdeb nhw-a-ni- hwnnw, sy’n codi uwchlaw y dosbarthiad o genedlaetholdeb ethnig/sifig sydd mor ffasiynol y dyddiau hyn. Math o genedlaetholdeb sydd ddim yn cael ei alw’n genedlaetholdeb gan y rhanfwyaf, ond sy’n un o’r mathau mwyaf niweidiol- y math o genedlaetholdeb sy’n gwerthwynebu defnyddio adnoddau ein gwlad ‘ni’ er mwyn eu hachub ‘nhw’ tra fod cynifer ohonom ‘ni’ eisoes yn dioddef. Mae hi’n ddadl bwerys. Wedi’r cwbwl, digon hawdd croesawu dieithriaid i’n plith, ond beth am ein pobol ein hynain yr ydym ni wedi eu hamddifadu, y digartref, y cyn-filwr sydd wedi gwylio ei fywyd yn chwalu, y rhai sy’n ffoi trais yn y cartref, y teuluoedd sydd wedi colli eu cartref? Pam nad ydyw eu dioddefaint nhw mor bwysig a dioddefaint ffoaduriaid?

Neu i ail-eirio y cwestiwn, onid ydi dioddefaint ein pobol ‘ni’ yn fwy o gyfrifoldeb i ni na dioddefaint y ‘nhw’ diarth? Mae’n gwestiwn teg. Ydi’n cyfrifoldeb ni i aelodau’n cymuned yn fwy na’n cyfrifoldeb i aelodau’r gymuned ryngwladol? (h.y. communitarianism). Yn reddfol, mi ryda ni’n teimlo cyfrifoldeb i’r bobol hynny y mae gennym berthynas a nhw, ein teulu a’n ffrindiau, ac yna fel estyniad o hynny, ein cymuned, ac fel estyniad o hynny cymuned ddychmygol ein cenedl. Ond y broblem wrth wraidd y teimlad hwn ydi ein bod yn rhoi gwerth uwch ar fywydau rhai pobl nac eraill, ar sail ein perthynas (ddychmygol neu wirioneddol) efo nhw. Canlyniad y safiad hyn yw fod gwerth bywydau rhai pobl un yn cael eu cyfri’n fwy na’r llall. Os daliwn(fel mae’n ymddangos nad oes llawer o Brydain awydd gwneud bellach) at werthoedd y datganiad rhywngwladol ar hawliau dynol, mae bywyd pawb yn gyfwerth. Mae gennym gyfrifoldeb i holl ddinasyddion y byd, waeth be ydy eu ‘perthynas’ i ni. Gwrthyn ydi cymharu ein cyfrifoldeb i fachgen bach sy’n ffoi gwlad wedi ei dinistrio mewn rhyfel i’n cyfrifoldeb i gyn-filwr clwyfedig. Mae’r ddau yn gyfwerth.

Mae ein hadnoddau yn gyfyngedig, a weithiau mae’n rhaid penderfyny pa ddefnydd ohono ddoiff a’r budd mwyaf i’n nifer mwyaf. Yn yr achos hwn, mae’r perygl uniongyrchol i fywydau y ffoaduriaid o Syria a’n gallu sicir i achub bywydau miloedd yn ddadl glir dros sianelu’n hadnoddau i’r fan honno.

Mae’r ffaith fod angen gwneud y ddadl hon yn rhyfeddod i mi. Y safbwynt ‘ein pobl ni’ yn erbyn ‘eu pobl nhw’ sy’n fy mhoeni i. Pryd aeth rhywbeth mor abswrd a  ffin gwlad yn ffin ar ein gallu i  fod ag empathi at ein cyd-ddyn? Fel dangododd John Rawls, rydym yn gweld anghyfiawnder cymdeithasol trwy lens wedi eu lliwio a’n buddianau ni a’n safle o fewn cymdeithas a’r byd. O fynd tu ol i len anwybodaeth (the veil of ignorance) mae gennym well siawns o weld beth sy’n gyfiawn mewn cymdeithas a’r byd.

Felly dychmygwch hyn. Mae ymosodiad terfysgol wedi bod yn Wylfa. Mae llygredd niwclear yn ymledu, mae Pont Menai wedi ei ffrwydro, mae damwain wedi cau’r A55, mae’r lon tua’r de yn deadlocked, awyrenau Fali wedi hen ddianc tua diogelwch. Mae miloedd o drigolion Gwynedd yn ceisio ffoi tua Iwerddon mewn dingis, canw’s, heb gychod pysgota. A ddylai Iwerddon adael iddynt lanio, cynnig lloches iddynt, yntau eu gyrru’n ol, achos fod gan Iwerddon eisoes ddigon o dlodion, diolch yn fawr?

Siawns yn unig yw i ni gael ein hynain yn byw mewn gwlad gymharol lewyrchus, heddychlon. Tu ol i len anwybodaeth, gallwn fod yn berchenog busnes o Landudno, yn deulu digartref ym Mhwllheli, neu yn ddyn ifanc sydd wedi colli ei deulu ac yn ffoi o ryfel. Heb wybod pa sefyllfa y byddech chi ynddi, pa gambl fyddech chi yn fodlon ei chymryd o ran cynnig lloches i ffoaduriaid?

Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng…

Mae nifer o’r confensiynau traddodiadol ynglŷn a rheolau rhyfel yn dyddio’n ôl o gyfnod lle roedd dyn yn herio dyn ar faes brwydr ac yn rhoi ei hyn mewn sefyllfa lle gallai ladd ei elyn yn anrhydeddus trwy fater syml o hynan-amddiffyniad. Mae datblygiadau mewn technoleg filwrol, o’r march i’r bwa i’r powdwr gwn hyd at yr awyren a’r bom, a natur anghymesur y datblygiad hwn wastad wedi tanseilio’r traddodiad hwn, a’r deddfau sydd wedi ei seilio arno. Datblygiad milwrol sydd wedi gwthio’r syniad bron tu hwnt i barodi yw genedigaeth yr UAV’s (Unmanned arial Vehicles), neu’r Awyrenau di-beilot (er engraifft, hon), a’u brodyr hŷn, y Taflegrau Manwl eu Nod (Precision guided muinitions) a’r Ergyd Fanwl-Gywir (Surgical Strike). Mae’r materion moesol y mae’n defnydd o rhain a’r faes y gad (ac, yn arwyddocaol iawn, oddiarno) yn eu codi yn rai dyrys ac yn debygol o newid y ffordd yr ydym yn meddwl am Reolau Ymladd a deddfau rhyngwladol yn y dyfodol.

Yr hyn sydd wedi dod a’r mater i’r amlwg yn ddiweddar yw marwolaeth dinesydd Prydeinig mewn lladdfa wedi ei thargedu (targeted killing) ym mis Awst. Lladdwyd Reyaad Khan o Gaerdydd drwy ergyd wedi ei thargedu o un o awyrenau di-beilot yr RAF. Cafodd dau arall eu lladd yn yr ymosodiad,gan gynnwys dinesydd Prydeinig arall. Y cyfiawnhad dros yr ymosodiad oedd hawl Prydain i  hunanamddiffydian, yn ol David Cameron.

Mae technoleg awyrenau di-beilot a thaflegrau ‘smart’ yn ein caniatau i wneud nifer o bethau newydd yn nhermau ymosod:

  1. Lladd heb risg o niwed corfforol i filwyr Prydeinig (pwysleisir niwed corfforol- mae effeithiau seicolegol y lladd hyn ar beilotiaid drone yn fater arall)
  2. Mae arfau smart a manwl eu nod ein galluogi (weithiau, ac nid hanner mor amal ac y mae’r enw’n awgrymu) i daro targedau bychain iawn. Mae’r lluniau enwog hynny o daflegrau rhyfel y gwlff wedi serio yn y cof.

Effaith hyn yw’r gallu i dargedu unigolion penodol, mewn modd oedd yn amhosib cyn hyn. Gellir (yn ddamcaniaethol) ymladd rhyfel efo rhestr siopa o unigolion i’w gwaredu- onid dyma freuddwyd y squaddie druan a’r strategwyr rhyfel uchelgeisiol? Yn lle gwastraffu adnoddau yn ymladd rhyfeloedd hirwyntog, targedu’r asedau pwysicaf a dinistrio gallu’r gelyn i gynnal byddin. Mae’r enwau eu hunain yn bradychu delfryd y gwneuthurwyr- Surgical strikes fydd yn troi’r weithred o ymladd rhyfel i fod yn weithred llaw feddyg yn trin tiwmor, a hynny heb risg i fywydau Prydeinig. Mae gwobrau Nobel wedi cael eu rhoi am lai.

Wel, nid felly y bu. Mae arfogaeth anghymesur yn arwain at ryfeloedd budur lle mae’r gwanaf yn gorfod chwilio am unrhyw fantais, boed hynny’n dilyn deddfau rhyngwladol neu ddim. Dyna mae’n siŵr sut yr ydym ni wedi canfod ein hunain yn ymladd rhyw fath o ryfel proxy yn erbyn gwladwriaeth ersatz sydd wedi gorfodi Prydain i amddiffyn ei hyn mewn modd foesegol amwys, sef targedu ei dinesyddion ei hunan. Y consensws yw fod Prydain wedi ymddwyn o fewn ffiniau deddfau’r wlad a deddfau rhyngwladol yn y weithred hon. Ond deddfau yw rhain wedi eu llunio cyn fod posib saethu dyn mewn cerbyd di-yrrwr ochor arall y byd. Ydi lladd targedau unigol yn foesol o fewn deddfau rhyfel? Pa unigolion sy’n dargedau cymwys? Pa mor eang yw’n diffiniad o hynan-amddiffyniad? A faint o golateral damage sy’n dderbyniol wrth dargedu unigolyn pwysig?

Mae’n wrthyn trafod a chyfiawnhau cyfreithlondeb tros ladd un person dros y llall, ond hyd yn oed o fewn finiau y drafodaeth loerig hon, anodd fyddai dadlau fod lladd unigolion yn waeth na lladd cannoedd. Yn wir, mae’n bosib dadlau fod targedu unigolion yn fodd o gynyddu effaith ergyd ar gwrs y rhyfel gan leihau nifer y lladdedigion. Sy’n codi’r cwestiwn pwy sy’n darged teg? Oni fyddai dienyddio aelodau’r cabinet yn fwy effeithiol at ddod a’r rhyfel i ben na bomio dinasoedd a milwyr cyffredin? Neu’n well fyth, beth am fygwth a lladd eu teuluoedd a’u plant? Mae’n debyg y byddai hynny y tu hwnt i stumog y mwya milwriaethus ohonom ni. Dyma gyfyngu’r diffiniad rhywfaint felly, i gyfri targed cyfreithlon fel un sy’n peri bygythiad milwrol. Yn amlwg, allwn ni ddim dadlau (fel sy’n draddodiadol) eu bod yn peri bygythiad i fywydau milwyr Prydeinig, gan mai sôn am awyrennau di-beilot yr ydym ni. Bygythiad i’r wlad ac i’w dinasyddion, felly. Perffaith- dyma gynnwys arweinwyr mileinig sydd eisiau troi dinasoedd Prydain yn llwch, ond eithrio eu plant diniwed. Ond beth sy’n fygythiad rhesymol, a be sy’n ymateb rhesymol? Ydi un dyn efo AK-47 a quad bike mewn anialwch yn fygythiad gwirioneddol i ddiogelwch Prydain? Be am y dyn sy’n byw yn llofft sbâr ei fam ond yn breuddwydio am wneud pethau annisgrifiadwy mewn gorsaf drên yn Llundain? Wnaiff hyn mo’r tro. Rhaid deddfu felly fod angen y dyhead a’r gallu i beri niwed corfforol i ddinesydd Prydeinig fel diffiniad. A dyna ni- allwn ni gysgu’n dawel? Gaddo peidio saethu os nad ydi’r targed ar ei ben ei hyn mewn jip dair milltir o’r pentref agosaf? (Mae’n debyg fod gan yr Hellfire, un o hoff daflegrau smart y RAF radiws lladd o hyd at 15 medr)

Dyna ni ddod wedyn at ddinasyddion Prydeinig. Os ydi dinesydd Prydeinig yn penderfynu brwydro dros fyddin y gelyn, yna rhaid cydnabod eu bod yn frwydrwyr gelyniaethus, a’u trin felly. Ac eto mae eu targedu i’w lladd fymryn yn rhu debyg i summary execution i fy chwaeth i. Pryd yn union y mae dinesydd Prydeinig yn colli yr hawl (tybiedig anaralladwy) i achos llys? Pryd penderfynwyd fod dyn yn euog cyn iddo hyd yn oed gyflawni’r weithred? Pryd adferwyd y gosb eithaf? Dwn i ddim wir. Anodd ydi perthnasu hawliau sifig i sefyllfa filwrol. Ni fyddai dioddefwyr Khan wedi cael y fraint o achos llys a thriniaeth gyfiawn, ond wir yr dwni’m weithiau dros be ‘da ni’n gwffio os mae’r moddion ydi suddo i’r un iselfanau a’r rheini yda ni’n ymladd.

Mae awyrenau di-beilot a thaflegrau manwl eu nod yn dod a ni’n o agos at safle Duw dialgar yn ein gallu i daflu ein pwysau a chosbi tresmaswyr. Pwy fyddai eisiau’r cyfrifoldeb dros y dewisiadau moesol hynny?

“Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O’i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.”
-Hedd Wyn, Rhyfel

Agolygiad: Y Gân Olaf

Er gwaethaf cael ei mawrygu fel y gyfrol “bwysicaf, o bosib, a gyhoeddwyd erioed gan Gyhoeddiadau Barddas” , cyfrol weddol gyffredin yw un o’r cyfrolau diweddara o’u gwasg, ‘Y gân olaf’. Heblaw am nofelti’r ffaith iddi gael ei chyhoeddi wedi marwolaeth y bardd, nid hon mo cyfrol fwya’ Gerallt o bell ffordd, ac er nad ydw i’n gyfarwydd a holl gynnwys bac-catalog Barddas, mae’n amheus gen i a ellir cyfri hon fel eu cyfrol fwya’ (byddai’n sobor o beth pe byddai!).

Gair amwys ei ystyr yw ‘pwysicaf’ wrth gwrs. Yn ôl pa linyn a fesurir pwysigrwydd cyfrol? O ran ei chynnwys, y bardd, neu ei heffaith? Pa rinweddau fyddai’n rhoi i hon bedestal yn y canon Cymreig? Does dim byd chwyldroadol yn y cynnwys na’i ffurf, a dim i awgrymu y bydd ganddi ddylanwad arbennig ar drywydd barddoniaeth y dyfodol. O ran gweithiau Gerallt ei hyn, o ran effaith ar y cydwybod Cymreig ac ar farddoniaeth Gymreig, mae ei ddwy gyfrol flaenorol yn sicr yn bwysicach. A beth bynnag, onid mater i genedlaethau’r dyfodol fydd penderfynu pwysigrwydd unrhyw gyfrol yn y pendraw?

Credaf fod Barddas wedi gwneud cam a’r gyfrol gyda’i gor-ddweud ymffrostgar. Codwyd disgwyliadau nifer sydd wedi mynegi siom yn y gyfrol i entrychion an-realistig, gan ein hatal rhag gwerthfawrogi y gyfrol hon am yr hyn ac yr ydi hi, sef cyfrol annwyl a syml o gerddi coffa, englynion ac phenillion.

Yn gyffredinol, alla i ddim dioddef cerddi coffa, neu gerddi priodas mewn cyfrol. Rhyw gymysgedd o sentimentalrwydd, yr angen am ‘fillers’ a golygyddion rhu laid-back mae’n debyg sy’n gyfrifol eu bod yn britho cymaint o gyfrolau, heb dalu ru’n ddime am eu lle. Yn amherthnasol eu testun i’r rhan fwyaf o ddarllenwyr, yn rhu bersonol a phenodol y profiad i gael eu gwerthfawrogi, ac yn waethaf oll yn dangos diffyg gwreiddioldeb ac yn ddarnau cyffredin iawn o ran safon. Bosib fod eu crefft yn gywir a chadarn, ond mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n methu fel darnau o gelf.

Camp Gerallt felly yn y gyfrol hon yw dangos sut mae ei gwneud hi go iawn. Does dim byd yn bod mewn stôl wedi ei llunio yn grefftus, ond os cymerwch lond stafell o stolion yr hyn sydd ganddo chi ydi siop ddodrefn, nid oriel gelf. Camp Gerallt oedd troi stolion crefftus yn gampweithiau celfyddydol. Mae ei gerddi coffa yn wreiddiol a gwefreiddiol, pob un yn unigryw ac yn peintio darlun byw o’r cymeriad. Does gen i ddim clem pwy oedd yr hybarch Foses Glyn Jones (mwya cywilidd i mi mae’n siŵr) ond mae cywydd Gerallt yn gwneud ei golled yn golled i ni gyd, ac mae ei ing yn goferu o’r dudalen. A cherdd roddodd ias i mi’n bersonol oedd y gerdd i Eirwyn Pentre, perthynas pell i mi nad oeddwn i’n ei adnabod ond a ddeuthum yn agosach iddo trwy gerdd Gerallt nag a fu mi erioed, a dyna’i grefft- gwneud i rywun deimlo dros farwolaeth dieithryn, fel dros Siôn y Glyn neu dros Owain ab Urien. Mae’r cerddi’n fyw ar boen yn rhan o’n profiad ni i gyd.

Cerddi sydd wedi profi yn chydig o farmite yn y gyfrol o’r hyn yr ydw i wedi ei glywed yw’r penillion, er fod rhain ymysg fy ffefrynnau i. Mae yna rywbeth Emily Dickinsonaidd yn y bennill “Ffynnon”, ac mae “Carol” yn rhoi ias i mi bob tro yr ydw i’n ei darllen, y cynildeb a’r stori sydd ynghudd to ol i’w llinellau. Dyma agwedd anghyfarwydd ar awen Gerallt, gwahanol a hyfryd. Weithiau mae angen hyder a phrofiad bardd aeddfed i roi ei ffydd mewn cerdd sy’n cyfleu mwy wrth ddweud llai.

A dyna ddod a ni’n daclus at englynion Gerallt, ac o ddarllen y gyfrol hon bron y byddai wedi bod werth cyhoeddi cyfrol o englynion Gerallt ar wahân. Does fawr ddim a ellir dweud am englynion Gerallt nac sydd wedi cael ei ddweud eisoes, dim ond y dylid eistedd nol a’i mwynhau. Ffefryn personol gen i oedd “Penllyn”, ond pleser oedd darllen y rhanfwyaf.

Mae’r gyfrol yn eang o ran themâu, a bosib mae dyma ei phrif wendid fel cyfrol. Teimlwn fod Mab y Bwthyn er enghraifft ddim yn perthyn yn yr un gyfrol ac Eirwyn Pentre, ac y byddai cadw’r gyfrol at gerddi mwy personol wedi bod yn well. Mae’n na deimlad ‘miscelanious’ i’r casgliad, ychydig fel bocs eiddo coll, sy’n naturiol o gofio natur ei chyhoeddi, ond sydd yn amharu ar y darn fel cyfanwaith.  Roedd y diarhebion hefyd yn poeni rhyw fymryn arna i. Tra fod rhai yn llwyddo, doedd eraill ddim wastad yn taro deuddeg, a gwell fyddai petae nhw wedi cael eu hepgor.

Er gwaetha hynny, mae hon yn gyfrol annwyl, bersonol ac ingol, ac o fynd ati efo disgwyliadau rhesymol, un a fydd yn cael ei mwynhau am amser maith. Nid ydi hi’n anghyffredin mewn unrhyw ffordd amlwg, ond yr hyn sydd yn ei dyrchafu yw’r ffordd feistriolgar y lluniwyd y pethau cyffredin hyn, nes gwneud iddyn nhw ddisgleirio

Sex politics yn y pafiliwn pinc

Mae’r orsedd, o’u chenhedliad i’w hymgnawdoliad cyfoes yn sefydliad bizarre. Honco bost. Ond un rhan o’r sefydliad sy’n fy nharo i’n fymryn rhyfeddach na’r gweddill ydi busnes y Fam a Morwyn y fro ‘ma.

Mae defod yn dibynnu ar symboliaeth er mwyn cael ystyr. Mewn ffordd, does ots pa ystyr a fwriedir gan yr un sy’n creu’r symbol, oherwydd y dehongliad ym mhen y gwyliwr sy’n rhoi’r ystyr. Mae’r crewr yn farw, fel petai (yn llythrennol yn yr achos hwn, R.I.P. Iolo x / Cynan) felly er na wn i pa ystur a fwriedid gan ddylunwyr gwreiddiol y ddefod, mae’r ysgrif yma’n seiliedig ar fy nehongliad personol i ohoni.

Mae’r orsedd a’i seremonïau wedi hen arfer a chyhuddiadau o rywoliaethrwydd, a hithau’n llawn man swyddogaethau sy’n cyfyngu ar sail rhyw, o’r macwyiaid i ferched y ddawns flodau. Ond un rhan o’r ddefod sydd yn mynd ar fy nerfa i ydi rol Morwyn a Mam y fro. Ystyr Morwyn, wrth gwrs, ydi, merch sydd heb gael rhyw; a mam ydi dynes sydd yn amlwg wedi cael rhyw ar ryw bwynt yn ei bywyd. Ond nid dim ond nodi dau gyfnod mewn bywyd dynes a geir yma. Mae yna sylw normadol cynnil, ond hynaflyd ar foesau rhywiol merched. Trwy alw y ferch ifanc yn ‘Forwyn’ rydym yn pwysleisio arwyddocad ei bywyd rhywiol. Mae galw’r ddynes yn ‘Fam’ yn ei phwysleisio fel dynes sy’n cael rhyw at bwrpas cenhedlu. Mae virgins yn ok, a merched parchus sy’n cael rhyw er mwyn cael plant, ond does na ddim lle i ferched sy’n cael rhyw am hwyl o fewn parchusrwydd yr orsedd. Nid fod mamau ddim yn mwynhau rhyw, dwi’n siwr fod nifer ohonyn nhw yn, ond mae galw’r cymeriadau yma o fewn y panto yn ‘fam’ a ‘morwyn’, yn hytrach na ‘merch’ a ‘dynes’ neu rywbeth tebyg yn pwysleisio rhyw a’i bwrpas mewn bywyd merch, ac o fewn cymdeithas.

Mae’r neges yn bellgyrhaeddol. Os chwilio am ystyr, gellid ei ddehongli fel awgrym mai pwrpas merched yw edrych yn ddel a chenhedlu. Mae’n awgrymu fod gwyryfdod yn ran bwysig o hynaniaeth, neu werth merch. Hyn gan sefydliad sydd ond newydd gael eu harchdderwydd benywaidd cyntaf… (Diweddariad: Ac erbyn 2018 sydd a’i harchdderwydd yn son am bwysigrwydd ‘y dynion tu ol iddyn nhw’ i feirdd benywaidd #Geraintgate)

Mae’n debyg nad dyna sy’n dod i feddwl y rhelyw wrth wylio’r ddefod, a tydi o ddim yn agos at fod y mater pwysica sy’n ein hwynebu ni fel Cymru Cymraeg. Dwn i ddim ydi ‘morwyndod’ y Forwyn yn, be ddwedwch chi, yn fater technegol, er fod adroddiad o 2001 yn awgrymu fod posibilrwydd i hyn fod yn broblem ar un adeg. Ond mewn byd lle mae heddweision a milwyr benywaidd yng Indonesia yn gorfod wynebu profion gwyryfdod gorfodol, a lle mae merched yn cael eu dienyddio am gael rhyw y tu allan i ffiniau priodas, traha fyddai diystyru y mater a arwyddocâd y ddefod. Un o’r pethau bach yna ydi o, ac fel yw natur nifer o bethau bach, mater bach fyddai ei ddiwigio. Rhywbeth i ystyried pan ddaw hi’n amser ail-wampio rhywfaint ar y defodau. Gall moderneiddio ymgorffori ei hyn mewn mwy nag un ffordd, a phan ddaw’r ddadl moderneiddio i blagio’r orsedd eto, tybed ai moderneiddio aestheteg yntau gwerthoedd fydda nhw?

Pam fy mod i’n casau twristiaid

Mae pawb yn casáu twristiaid- mae nhw’n llenwi lonydd gwledig efo’i gyrru gwael a’u carafans araf, yn cyflawni troseddau enbyd yn erbyn deddfau ynganiad, yn cerdded yn rhu araf ar hyd palmentydd cul, ac, wel, jest yn boen cyffredinol yn nhin pawb. A tydu eu heffaith negyddol nhw byth yn fwy amlwg na pam ma rywun yn dwrist ei hyn. Does na ddim byd yn sbwylio gwyliau yn fwy na bod yn hyper-ymwybodol o ddirmyg y bobol leol tuag ato chi (dyna pam dwi mor hoff o ddwyrain Ewrop- efo fy acen gref a wynepryd amwys ei darddiad, ma’ nhw’n cymryd mod i’n un ohonyn nhw fel arfer).

Ond y peth diweddara i gythruddo trigolion trefi glan-mor a phot-mel Cymru ydi’r honiad gan Chris Osborne, cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru fod yr iaith Gymraeg “weithiau’n mynd yn y ffordd” i’r twristiaid hynny sy’n mentro dod yma. Ac mae o’n bwynt dilys. Yntydi enwau an-ynganadwy wedi bod yn destun trallod i nifer dros y blynyddoedd? Y miloedd sydd wedi wynebu’r her o ynganu Ljubljana ar ol un gwydryn yn ormod o’r gwin lleol; y lluoedd dryslyd sydd wedi ceisio yn ofer a dod o hyd i lafariad yn enw ‘Brno’. Fi fy hyn, a fethodd y bws ola (i Frno, digwydd bod) ar ôl methu cynnig yr ynganiad cywir o ‘Nadrazi Florenc’ i yrrwr tacsi difynedd; ac wrth gwrs, pwy all anghofio y trueiniaid hynny a gafodd eu hunain yn sownd ym maes awyr Reykjavík , maint eu galar wedi eu luosogi gan eu hanallu i ynganu achos eu tristwch: Eyjafjallajökull. Nid problem Gymreig mo hon o bellffordd.

Felly pam y cynddeiriogi? Os ydw i fy hynnan wedi dioddef yn sgil melltith yr enw anynganadwy, pam felly fod fy stumog yn troi o glywed yr awgrym y dylid addasu, neu (dduw a’n gwaredo) ddyfeisio enwau newydd ar gyfer llefydd Cymreig? Oni fyddai bywyd yn haws i bawb, twristiaid yn hapusach, gyrwyr lorris tramor yn medru ffendio ei ffordd yn well, ac wrth gwrs, coffrau y gwestai a thai bwyta a siopau cofroddion yn gorlifo a cheiniogau dieithriaid? Hwylustod a llawenydd i bawb. I fod.

Yn syml, ma’r syniad yn troi ar rywun achos fod rhywun yn teimlo fod gan dwristiaid ddim hawl i fyny’r fath fraint. Mae effaith twristiaith i’w weld dros y byd i gyd, o draethau cyforiog Cancun i ddiffeithdir carafaniog Prestatyn, o buteindai Vaclavske Namesti i bentre pysgota Benidorm. Pob man y mae twristiaid yn cyrraedd, mae nhw’n creithio, ac er gwaetha’r holl fudd economaidd honedig, all rhywun ond peidio llidio. Mi allech chi sgwennu traethodau lu ar y spin Ol-drefedigaethol, marxisist, neu Leninist ar ddiwydiant twristiaeth, Anglo-ddominyddedig, gorllewinol a’i effaith ar gymunedau a’i diwylliant, ond sgennai’m mynadd. Y gwir amdani ydi fod dicter nifer yn deillio o’r teimlad sylfaenol o anghyfiawnder fod angen newid er mwyn twristiaid, a nhwythau’n ddim mwy na ymwelwyr dros dro, heb dalu treth cyngor na fynychu’r un pwyllgor neuadd na dim.

Mae’r math o dwristiaeth sy’n achosi newid andwyol i gymunedau,  fel yr hyn sydd wedi digwydd i gynifer o lefydd, o ynysoedd Sbaeneg i arfordir gogledd Cymru, yn dwristiaeth anghyfrifol. Fel dwed y slogan “take nothing but pictures, leave nothing but footprints” dylai pob ymwelydd geisio cael cynlleied a phosib o effaith ar y cymunedau a ymwelir a nhw. Fel arall yr hyn fydd gennym ni ydi teurnas rhyngwladol o dafarndai Gwyddelig a static carafans, a phwy fydd eisiau mynd ar eu gwyliau i fanno?

Mi fydd pobol yn dal i fynd i Ljubljana, Brno a Reykjavík waeth be fydda nhw’n cael ei galw, a fentra i na fydda newid enw Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwyllllantysiliogogogoch  yn perswadio dim mwy o bobol i fynd i fanno chwaith. Felly Croeso i Gymru gyfeillion, teithiwch yn gyfrifol.