Casgliad o fyfyrdodau ar wleidyddiaeth, llenyddiaeth, athroniaeth, a beth bynnag sy’n digwydd dal fy sylw i.
Fy enw i ydi Grug Muse, dwi’n dod yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle ond yn aros ar hyn o bryd ym Madrid. Dwi wedi graddio yn ddiweddar o Brifysgol Nottingham efo gradd mewn Gwleidyddiaeth, cwrs tair mlynedd i chwerwi’r enaid a throi’r oenig diniweitaf yn sinig o’r iawn ryw.
Hoff ddinas: Prague
Cas ddinas: Paris
Y peth sy’n codi y mwyaf o ofn arna i: Nadroedd
Y peth gwirionaf i mi ei wneud: Cael car fy mam yn sownd mewn chwarel (shh, dydi hi dal ddim yn gwybod.. )
Hoff air: Cigfran
Arferion drwg: Gorddefnydd o drosiadau.
Sgwennwyr sydd wedi cael dylanwad arna i: Dr Zeus, Elizabeth Watkin-Jones, T.H. Parry-Williams, Caradog Pritchard, Sylvia Plath, Milan Kundera, Edward Said, Federico Garcia Lorca, Leo Tolstoi, Ursula le Guin, George Orwell
Mwy o stwff gen i yn fama: https://elangrug.wordpress.com/
Shwmae Grug,
Oni moyn weud diolch unwaith eto am y copiau o’r Stamp, wedi mwynhau ei darllen yn fawr! Prosiect hyfryd iawn. Os hoffit gwrdd yn y dre i sgwrsio rhywbryd ala neges i fi ar yr ebost ma. Da ni hefyd yn cal sesiynau gwerin lan y cwm nawr ac ati – croeso cynnes i ti dod!
Pob hwyl,
Caradog
HoffiHoffi
Haia Caradog-
Diolch am y neges, braf oedd siarad efo chdi nos wener, a diolch eto am gefnogi’r Stamp. Sesiynau gwerin lan y cwm yn swnio’n ddifyr iawn, falle ddoi draw am sbec ryw ben!
Hwyl,
Grug
HoffiHoffi